Albatros
| Albatrosiaid | |
|---|---|
| Albatros aelddu (Thalassarche melanophris) | |
| Dosbarthiad yr Albatros | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Procellariiformes |
| Teulu: | Diomedeidae G.R. Gray, 1840 |
| Genera | |
Albatros yw'r enw a ddefnyddir am adar môr mawr yn perthyn i'r teulu Diomedeidae. Maent i'w cael yn rhan ddeheuol Cefnfor Iwerydd ac yn rhannau deheuol a gogleddol y Cefnfor Tawel. Treuliant y rhan fwyaf o'u hamser ar y môr, gan ddychwelyd i'r tir yn unig i fagu cywion. Caiff yr albatros ei adnabod fel y "mwyaf chwedlonol" o holl adar y Ddaear.[1]
Mae'r albatrosiaid hynny sy'n perthyn i'r genws Diomedea, "yr albatrosiaid mawr", ymysg yr adar mwyaf sy'n medru hedfan. Mae'r adenydd yn hir a chul, sy'n eu galluogi i fanteisio ar y gwyntoedd i hedfan dros bellteroedd mawr heb ddefnyddio llawer o egni. Pan nad oes gwynt o gwbl, ni all llawer o'r albatrosiaid hedfan. Eu bwyd arferol yw pysgod bychain a krill.
O'r 21 rhywogaeth o albatros, ystyrir fod 19 ohonynt mewn perygl o ddiflannu. Y perygl mwyaf iddynt yw cychod pysgota sy'n defnyddio leiniau pysgota hir i ddal rhai rhywogaethau o bysgod; mae llawer o albatrosiaid yn cael eu dal ar y rhain.
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| teulu | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Albatros Laysan | Phoebastria immutabilis | |
| Albatros Ynys Amsterdam | Diomedea amsterdamensis | |
| Albatros Ynys Izu | Phoebastria albatrus | |
| Albatros aelddu | Thalassarche melanophris | |
| Albatros brenhinol y De | Diomedea epomophora | |
| Albatros crwydrol | Diomedea exulans | |
| Albatros du cefnllwyd | Phoebetria palpebrata | |
| Albatros penllwyd | Thalassarche chrysostoma | |
| Albatros tonnog | Phoebastria irrorata | |
| Albatros troetddu | Phoebastria nigripes |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ C. Carboneras, "Family Diomedeidae (Albatross)", yn Handbook of Birds of the World cyf.1 (Barcelona: Lynx Edicions, 1992)









