Musophagiformes

Oddi ar Wicipedia
Musophagiformes
(Turacoiaid a'u perthnasau)
Amrediad amseryddol:
Oligosen - Holosen, 24–0 Miliwn o fl. CP
Twraco gwyrdd, Tauraco persa
yn Ne Affrica
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Musophagiformes
Seebohm, 1890
Teulu: Musophagidae
Lesson, 1828
Genera

Is-ddosbarthiadau:

Cyfystyron

Apopempsidae
Musophagiformes (see text)
Veflintornithidae

Urdd o adar yw'r Musophagiformes (Cymraeg: y Twracoaid). Y Musophagidae yw'r teulu sy'n golygu "y bwytwyr banana". Yn neheudir Affrica fe'u gelwir yn louries. Mae pedwerydd bys allanol eu traed yn medru mynd i mewn neu allan o'r croen. Mae'r ail a'r trydydd bys yn pwyntio tuag at ymlaen - drwy'r amser, ac wedi uno gyda'i gilydd i greu un bys, mewn rhai rhywiogaethau. Mae gan y Musophag grib eitha mawr ar gopa'i ben, a chynffonau urddasol, hir. Mae'r grwp hwn yn nodedig am eu lliwiau llachar - coch a gwyrdd fel arfer.

Yn draddodiadol cafodd y Musophagiformes eu rhoi gyda'r cogau yn urdd y Cuculiformes, ond codwyd y grwp i statws urdd gan Sibley-Ahlquist a alwyd yn Musophagiformes. Bu ymagais i'w cysylltu gyda'r hoatzin, ond bu'r ymgais yn aflwyddiannus.[1] but this was later disputed.[2] Hyd at 2016 roedd gwaith ymchwil genynnol yn cryfhau'r statws urdd.[3][4][5]

Mae'r Musophagidau'n adar o faint canolig sy'n frodorol i Affrica is-Sahara, ble maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, cotiroedd a safanas. Adar digon gwan ydyn nhw o ran eu hedfaniad. Ffrwythau (grawnwin a pawpaw ) yw eu prif fwyd, ac yn achlysurol dail, blagur a blodau. Weithiau fe fwytant bryfaid bychan, malwod a gwlithod. Fel yr awgryma'u henwau, maen nhw'n hoff iawn o fwyta banana.

Rhywogaethau'r teulu[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Lowri dorwen Corythaixoides leucogaster
Lowri lwyd Corythaixoides concolor
Lowri wynepfoel Corythaixoides personatus
Twraco Bannerman Tauraco bannermani
Twraco Fischer Tauraco fischeri
Twraco Hartlaub Tauraco hartlaubi
Twraco Ross Musophaga rossae
Twraco bochwyn Tauraco leucotis
Twraco crib fioled Tauraco porphyreolophus
Twraco cribgoch Tauraco erythrolophus
Twraco cribog Tauraco macrorhynchus
Twraco cribwyn Tauraco leucolophus
Twraco fioled Musophaga violacea
Twraco gwyrdd Tauraco persa
Twraco llwyd y Dwyrain Crinifer zonurus
Twraco llwyd y Gorllewin Crinifer piscator
Twraco mawr Corythaeola cristata
Twraco pigddu Tauraco schuettii
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hughes & Baker (1999)
  2. Sorenson et al. (2003)
  3. Ericson, P.G.P. et al. (2006) Diversification of Neoaves: integration of molecular sequence data and fossils Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback.. Biology Letters, 2(4):543–547
  4. Hackett, S.J. (2008). "A Phylogenomic Study of Birds Reveals Their Evolutionary History". Science 320 (5884): 1763–1768. doi:10.1126/science.1157704. PMID 18583609.
  5. Jarvis, E.D. (2014). "Whole-genome analyses resolve early branches in the tree of life of modern birds". Science 346 (6215): 1320–1331. doi:10.1126/science.1253451. PMID 25504713. http://www.sciencemag.org/content/346/6215/1320.abstract.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: