Neidio i'r cynnwys

Gwlithen

Oddi ar Wicipedia
Gwlithen
Enghraifft o:organebau yn ôl enw cyffredin Edit this on Wikidata
MathGastropod Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwlithen fawr ger Manali, India

Gwlithen, malwen wlith neu malwen ddu, yw'r enw a roir i unrhyw gastropod bychan croengaled llysnafeddog o'r genws Limax a genera perthynol sy'n byw ar dir yn bennaf.

Mae amryw deuluoedd tacsonomig o wlithod tir yn perthyn i nifer o wahanol linachau sydd hefyd yn cynnwys malwod. O ganlyniad, nid yw'r gwahanol deuluoedd o wlithod yn perthyn yn agos, er gwaethaf y tebygrwydd o ran eu ffurf. Mae'r cyflwr di-gragen wedi ymddangos lawer gwaith yn annibynnol yn ystod y gorffennol ac felly mae'r categori "gwlithen" yn un lluosdylwythol.

Mae anatomi allanol gwlithen yn cynnwys tentaclau, mantell, cynffon, cêl, troed a weithiau cragen weddilliol.

Mae gwlithod yn ddeurywiol, gydag organau atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd.[1] Wedi esgor, maent yn dodwy tua deg ar hugain o wyau mewn twll yn y ddaear neu dan gysgod gwrthrych fel boncyff.

Mae gan wlithod ran bwysig yn yr ecosystem am eu bod yn bwyta deunydd planhigion sy'n pydru a ffwng.[2] Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau yn gyffredinolwyr, yn bwyta ystod eang o ddeunyddiau organig, gan gynnwys dail planhigion byw, madarch, a hyd yn oed celain.[2][3] Mae rhai gwlithod yn ysglyfaethwyr ac yn bwyta gwlithod eraill a malwod, neu fwydod.[2][4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Perverted cannibalistic hermaphrodites haunt the Pacific Northwest! " The Oyster's Garter". Theoystersgarter.com. 24 Mawrth 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2008. Cyrchwyd 15 Awst 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 "What Do Slugs Eat?". animals.mom.me. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-31. Cyrchwyd 15 Awst 2016.
  3. Keller, H. W.; Snell, K. L. (2002). "Feeding activities of slugs on Myxomycetes and macrofungi". Mycologia 94 (5): 757–760. doi:10.2307/3761690. JSTOR 3761690. PMID 21156549. http://www.mycologia.org/content/94/5/757.full. Adalwyd 15 Awst 2016.
  4. "Worm-eating slug found in garden (video)". BBC News. 10 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 15 Awst 2016.