Sgiwen (aderyn)
Gwedd
- Gweler hefyd: Sgiwen (gwahaniaethu).
| Sgiwennod | |
|---|---|
| Sgiwen Frech (Stercorarius pomarinus) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Is-urdd: | Lari |
| Teulu: | Stercorariidae Gray, 1871 |
| Genws: | Stercorarius Brisson, 1760 |
| Rhywogaethau | |
|
Gweler y rhestr | |
Adar môr o deulu'r Stercorariidae yw sgiwennod. Maent yn adar eitha mawr a thywyll sy'n debyg i wylanod. Maent yn nythu ar arfordiroedd a thwndra yn rhannau gogleddol a deheuol y byd.[1] Mae eu deiet yn cynnwys pysgod, mamaliaid bach, pryfed, wyau a chywion.[1] Maent yn ymosod ar adar môr eraill er mwyn dwyn eu bwyd.[1]
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r teulu'n cynnwys saith rhywogaeth:[2]
- Sgiwen Chile, Stercorarius chilensis
- Sgiwen Pegwn y De, Stercorarius maccormicki
- Sgiwen y De, Stercorarius antarctica
- Sgiwen Fawr, Stercorarius skua
- Sgiwen Frech, Stercorarius pomarinus
- Sgiwen y Gogledd, Stercorarius parasiticus
- Sgiwen Lostfain, Stercorarius longicaudus
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
- ↑ Gill, F. & D. Donsker (goln.) (2012). IOC World Bird List, Version 3.1: Shorebirds and allies. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2012.