Gŵydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gŵydd
Amrediad amseryddol:
Miosen Hwyr-Holosen, 10–0 Miliwn o fl. CP
Gŵydd Ganadaidd, Branta canadensis

Ynghylch y sain hon Sain gwyddau, o bell

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Uwchurdd: Galloanserae
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Is-deulu: Anserinae
Llwyth: Anserini
Genera

Anser
Branta
Chen
and see text

Aderyn y dŵr ydy'r ŵydd, sy'n perthyn i'r llwyth biolegol a elwir yn Anserini yn nheulu'r Anatidae. Mae'r llwyth hwn yn cynnwys y genera Anser (yr ŵydd lwyd), Branta (yr ŵydd ddu) a'r Chen (yr ŵydd wen). Un o berthnasau'r ŵydd (o bell), sy'n yr un teulu, Anatidae, yw'r alarch, sy'n rhywogaeth mwy na'r ŵydd a'r hwyaden, sy'n llai ei faint. Mae'n aderyn cyfandroed a gelwir gŵydd wrywaidd yn glagwydd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel y gair Saesneg "goose", a'r Almaeneg Uchel "guoske" tarddiad Proto-Indo-Ewropeg sydd i'r gair "gŵydd". "Gé" yw'r Wyddeleg a "ghāz" ym Mhersieg, pob un yn ddigon tebyg i'r Gymraeg.[1][2] "Gé" yw'r Wyddeleg, "guit" mewn Hen Gernyweg, "gwaz" (Llydaweg diweddar, "géd" (Hen Wyddeleg. Mae'n ddigon tebyg, fod y gair yn tarddu o sŵn clebar yr aderyn: "gha gha" yw'r gair mewn Gwyddeleg diweddar. Yn Ne Cymru arefrid galw'r gwyddau, i'w bwydo, gan weiddi arnynt: "Gis, gis gis, giso bach!".

Ymddengys y gair yn gyntaf mewn ysgrifen yn y Gymraeg yn y 13eg ganrif, mewn dwy lawysgrif: Llyfr Du Caerfyrddin (Boed emendiceid ir guit) ac yn Y Llyfr Du o'r Waun (er uyt or). Ychydig yn ddiweddarach, ceir cofnod yn Llyfr Blegywryd, sef un o'r tri dull taleithiol ar Gyfraith Hywel (Y neb a gaffo gwydeu yn y ty). Sonia Dafydd ap Gwilym hefyd am yr ŵydd (Ac ogylch Castell Gwgawn, / Gogwydd cyw gŵydd lle câi gawn.)

Dofi a bridio[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni wyddys ym mhle y dofwyd yr ŵydd yn gyntaf, naill ai yn ne-ddwyrain Ewrop neu yn yr Aifft o bosib. Mae hefyd yn bosib iddynt gael eu magu yn y ddau le ar yr un pryd, yn annibynol i'w gilydd. O'r Ŵydd Eifftaidd mae gwyddau de-ddwyrain Ewrop yn tarddu, ac o'r Ŵydd Wyllt mae gwyddau Ewrop (neu'r Anser anser) yn tarddu. Bridiwyd llawer o fathau gwahanol o wyddau o'r ŵydd wyllt wreiddiol, gan gynnwys: Toulouse, Embden, Steinbacher, Pilgrim, y Byff Americanaidd a'r brid Cymreig, sef Byff Brycheiniog (Brecon Buff). Porai miloedd o wyddau ar fynyddoedd Cymru erbyn y 18fed ganrif, yn enwedig ar dir comin. Ceir tystiolaeth weledol o hyn mewn hen waliau sych, lle ceir weithiau 'dyllau gwyddau' yn enwedig mewn waliau terfyn y comin. Arferid gosod basged yn y cilfachau er mwyn i'r gwyddau gael lle diddos i nythu.[3]

Y porthmon gwyddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith y Porthmon Gwyddau oedd eu cerdded o gefn gwlad i'r marchnadoedd yn y trefi, gan deithio tua chwe milltir y diwrnod - gwaith digon araf. Arferid trochi'r traed mewn pyg (pitch) meddal ac yna mewn tywod neu ro mân, er mwyn eu hamddiffyn rhag anafiadau ar y ffyrdd caregog.

Y Nadolig[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd eu niferoedd ar eu huchaf yn y 19eg ganrif, oherwydd y galw am eu cig ar fwrdd y Nadolig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Partridge, Eric (1983). Origins: a Short Etymological Dictionary of Modern English. New York: Greenwich House. pp. 245–246. ISBN 0-517-414252. 
  2. Crystal, David (1998). The Cambridge Encyclopedia of Language. ISBN 0-521-55967-7. 
  3. Fferm a Thyddyn; Calan Gaeaf 2015; Rhif 56