Proto-Indo-Ewropeg
Gwedd
| Enghraifft o: | proto-iaith, iaith ddiflanedig |
|---|---|
| Math | ieithoedd Indo-Ewropeaidd |
| Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 4. CC |
| Rhagflaenwyd gan | Unknown, Proto-Nostratic |
| Olynwyd gan | ieithoedd Indo-Ewropeaidd, Proto-Germanic, Proto-Indo-Iranian, Proto-Balto-Slavic |
| Enw brodorol | Unknown |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02pzv0 |
Yr iaith wreiddiol, neu grwp o dafodieithoedd efallai, y tybir gan ieithegwyr y tarddodd Indo-Ewropeg a'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd ohoni yw Proto-Indo-Ewropeg. Does dim cofnodion o'r iaith dybiedig hon wedi goroesi; mae'r holl wybodaeth am Broto-Indo-Ewropeg wedi cael ei hailadeiladu o'i merch ieithoedd fel Groeg, Lladin, Sansgrit, a Gotheg.
Yn ôl damcaniaeth Gurgan, roedd Proto-Indo-Ewropeg yn cael ei siarad ar y stepdiroedd i'r gogledd o'r Môr Du hyd at y 5ed mileniwm CC, er bod amcangyfrifon eraill yn gosod y dyddiad hwnnw mor gynnar â'r 10fed mileniwm CC.