Gŵydd Canada
| Gŵydd Canada | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Branta |
| Rhywogaeth: | B. canadensis |
| Enw deuenwol | |
| Branta canadensis (Linnaeus, 1758) | |
| Tiriogaeth dymhorol Branta canadensis, Gŵydd Canada: melyn = haf, glas = gaeaf, gwyrdd = gydol y flwyddyn | |

Mae Gŵydd Canada (Branta canadensis) yn un o'r mwyaf cyffredin o'r gwyddau. Mae'n frodor o Ogledd America, yn nythu yng Nghanada a gogledd yr Unol Daleithiau ac yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar lawr heb fod ymhell o ddŵr fel rheol.

Gellir adnabod yr ŵydd yma yn hawdd o'r gwddf a pen du, gyda darn gwyn ar y gên, a'r corff yn llwydfrown. Mae'r ddau ryw yn debyg iawn i'w gilydd. Yr unig ŵydd sy'n weddol debyg yw'r Ŵydd wyran, sy'n llai ac yn dangos wyneb gwyn. Mae 7 o is-rywogaethau o Ŵydd Canada, sy'n amrywio'n fawr o ran maint.
Erbyn hyn mae Gŵydd Canada wedi ei gollwng yn fwriadol mewn nifer o wledydd yn Ewrop ac yn Seland Newydd. Mae'n aderyn cyffredin ar lynnoedd a chorsydd Cymru, ac mae'n ymddangos bod y boblogaeth yn cynyddu, gyda heidiau o gannoedd i'w gweld mewn ambell fan.