Gŵydd wyran

Oddi ar Wicipedia
Gŵydd wyran
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Branta
Rhywogaeth: B. leucopsis
Enw deuenwol
Branta leucopsis
(Bechstein, 1803)
Branta leucopsis

Mae'r Ŵydd wyran (Branta leucopsis) yn aelod o'r genws Branta, y "gwyddau duon", sydd a'r plu fel rheol yn ddu a gwyn, yn wahanol i'r genws Anser, y gwyddau llwyd.

Mae'n nythu ar ynysoedd yn yr Arctig fel rheol, ac mae pedair poblogaeth ohonynt ar gael:

  • Nythu yn nwyrain yr Ynys Las, gaeafu yng ngorllewin yr Alban a gorllewin Iwerddon; poblogaeth o tua 40,000.
  • Nythu ar Svalbard, gaeafu ar Foryd Solway rhwng yr Alban a Lloegr; poblogaeth o tua 24,000.
  • Nythu ar Novaya Zemlya, gaeafu yn yr Iseldiroedd; poblogaeth o tua 130,000.
  • Ers 1975 mae poblogaeth newydd wedi ymsefydlu, sy'n nythu ar ynysoedd yn y Baltig a gwledydd oddi amgylch ac yn gaeafu yn yr Iseldiroedd, poblogaeth o tua 8,000.

Mae'r Ŵydd wyran yn aml yn adeiladu ei nyth ar glogwyni yn y mynyddoedd. Wedi i'r cywion ddeor maent yn neidio i lawr y clogwyn; fel rheol maent yn osgoi niwed gan eu bod mor ysgafn. Mae'r rhieni wedyn yn eu harwain i wlybdiroedd lle gallant fwydo.

Gellir gweld niferoedd bychan o'r ŵydd yma yng Nghymru. Yn y gaeaf mae rhai ohonynt yn adar sydd wedi crwydro o'u mannau gaeafu arferol, ond mae hefyd rai sydd wedi dianc o gasgliadau adar ac yn nythu yma, yn enwedig ar Ynys Môn.