Ernst Haeckel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ernst Haeckel
Ernst Haeckel 1860.jpg
Ganwyd Ernst Heinrich Philipp August Haeckel Edit this on Wikidata
16 Chwefror 1834 Edit this on Wikidata
Potsdam Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Awst 1919 Edit this on Wikidata (85 oed)
Jena Edit this on Wikidata
Addysg Doethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Frederick William Edit this on Wikidata
Gwaith Biolegydd, meddyg, söolegydd, athronydd, naturiaethydd, arlunydd, ecolegydd, adaregydd, academydd, pysgodegydd edit this on wikidata
Cyflogwr Prifysgol Jena Edit this on Wikidata
Aelod o Academi Gwyddonaeth Leopoldina yr Almaen, Academi Frenhinol Gwyddoniaeth Sweden, Cymdeithas Swoleg Llundain, Academi Lincean, Academi Bafariaidd y Gwyddorau a'r Dyniaethau, Cymdeithas Athronyddol Americana Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal Darwin, Medal Cothenius, Medal Darwin–Wallace, Medal Linnean Edit this on Wikidata

Biolegydd Almaenig oedd Ernst Heinrich Philipp August Haeckel (16 Chwefror 18349 Awst 1919), weithiau von Haeckel. Bu'n gyfrifol am ddarganfod, disgrifio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd, ac am ddyfeisio nifer o dermau megis phylum, ecoleg a'r Protista. Gwnaeth Haeckel lawer i gyhoeddi syniadau Darwin yn yr Almaen, a datblygodd y theori fod datblygiad biolegol unigolyn o unrhyw rywogaeth yn ail-adrodd esblygiad y rhywogaeth honno.

Gabed ef yn Potsdam, yr adeg honno'n rhan o deyrnas Prwsia. Bu astudio meddygaeth yn ninas Berlin, gan ymgymhwyso fel meddyg, yna bu'n astudio swoleg ym Mhrifysgol Jena. Yn ddiweddarach daeth yn Athro anatomeg gymharol ym Mhrifysgol Jena, a bu yno am 47 mlynedd.