Ymsymudiad

Oddi ar Wicipedia

Mudiant corfforol gan anifeiliaid o un fan i'r llall yw ymsymudiad.

Mathau[golygu | golygu cod]

Ymsymudiad dros dir[golygu | golygu cod]

Mae ymsymudiad dros dir yn cynnwys cerdded, rhedeg, neidio, ac ymlusgo. Dim ond rhywogaethau o arthropodau a fertebratau sy'n gallu cerdded a rhedeg, hynny yw symud ar yr aelodau gan gadw'r corff uwchben arwyneb y ddaear. Mae gan fertrebratau rhedol goesau a thraed hirion a nifer llai o fysedd y traed.[1]

Llyffant yn llamu

Ceir ymsymudiad neidiol, hynny yw mudiant trwy lamu, neidio neu sboncian, gan nifer o bryfed (megis chwain a sioncod y gwair) a fertebratau (brogaod, cangarŵod, cwningod ac ysgyfarnogod, a rhai cnofilod). Mae gan famaliaid neidiol goesau ôl hirion a choesau blaen llai o faint, metatarsi hirion yn y traed ôl, a chynffon hir i gydbwyso'r corff.[1]

Mae anifeiliaid sy'n ymlusgo yn symud dros dir gyda'r corff yn cyffwrdd neu bron yn cyffwrdd â'r arwyneb. Mae gan nifer o fertrebratau dyfrol goesau byrion ac felly mae'n rhaid iddynt ymlusgo ar dir. Mae nadroedd a fertebratau eraill heb aelodau wedi addasu'n dda at ymlusgo.[1]

Ymsymudiad dyfrol[golygu | golygu cod]

Nofio yw'r modd amlycaf o ymsymudiad dyfrol. Mae nifer fawr o anifeiliaid, o brotosoaid i forfilod, yn gallu nofio'n rhydd gan reoli ei hynofedd a defnyddio system yriant i wrthsefyll mudiant y dŵr. Y dull mwyaf cyffredin o nofio yw i wthio'n gorfforol yn erbyn y dŵr, er enghraifft gan ddefnyddio asgell, coesau, neu gynffon, neu'r holl gorff mewn pysgod llysywennaidd. Mae nifer o anfertebratau, yn enwedig molysgiaid, yn gyrru eu hunain gan chwistrellu dŵr. Mae eraill yn symud rhannau meddal eu corff mewn ffordd donnog.[2] Mae rhai organebau bychain iawn, megis plancton, yn arnofio'n rhydd heb fawr o reolaeth dros eu ymsymudiad, os o gwbl, a gelwir hyn yn ymsymudiad goddefol.[3]

Mae nifer o anifeiliaid, yn bennaf anfertebratau a rhai pysgod, yn symud trwy gyffwrdd ag arwyneb, er enghraifft cimychod sy'n cerdded ar waelod y môr. Mewn dŵr aflonydd neu gyflym mae gan rai anifeiliaid sugnolion i'w glynu at yr arwyneb.[2]

Hedfan[golygu | golygu cod]

Ceir dwy fath o ymsymudiad trwy'r awyr gan anifeiliaid: ehediad gyredig (neu wir ehediad), a gleidio. Ceir ehediad gyredig gan nifer o bryfed, y mwyafrif o adar, ac ystlumod. Esblygodd adar ac ystlumod i gael adenydd am aelodau blaen, esgyrn ysgafn, torso byr, calon a chyhyrau thorasig mawr, a golwg amgenach. Ceir nodweddion tebyg mewn pryfed o ganlyniad i lwybr esblygiadol gwahanol.[4]

Ceir dwy fath o gleidio: gleidio disgyrchol, ac esgyniad. Gall gleidio disgyrchol fod yn gyfeiriedig (hynny yw pan bo'r anifail yn lansio'i hunan tuag at darged), neu'n goddefol (hynny yw pan bo'r anifail yn arafu ei ddisgyniad gan ddibynnu ar y gwynt i symud yn llorweddol, yn debyg i barasiwtio). Esblygodd nifer o anifeiliaid nodweddion er mwyn gleidio'n gyfeiriedig, er enghraifft esgyll sy'n debyg i adenydd (pysgod), bysedd gweog (y broga Rhacophorus a nifer o fadfallod), llafnau chwyddadwy ar hyd yr asennau (madfallod y genws Draco, nifer o nadroedd), a phlygiad croen rhwng y coesau blaen a'r coesau ôl (gleidwyr bolgodog, colwgo, gwiwerod ac anomalwriaid hedegog). Gleidio parhaol heb nerth yw esgyniad, drwy gleidio mewn colofn o aer sy'n codi ar gyfradd uwch na'r gyfradd gymharol o ddisgyniad yr anifail. Gall nifer o adar, yn enwedig adar mawr megis condoriaid ac albatrosiaid, a rhai pryfed megis glöyn y llaethlys esgyn.[4]

Ymsymudiad turiol[golygu | golygu cod]

Anifeiliaid turiol sydd yn turio neu gloddio'r tir. Tuedda turwyr y pridd i fod heb aelodau (megis madfallod a nadroedd) neu'n berchen ar goesau blaen pwerus (tyrchod daear, brochod, criciaid y tes). Mae gan anifeiliaid turiol gyrff llyfn, er enghraifft y blew byr, melfedaidd sydd gan dyrchod daear. Mae gan nifer o anifeiliaid turiol lygaid bach, neu heb lygaid o gwbl, a chlustiau heb agoriadau allanol.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) terrestrial locomotion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) aquatic locomotion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.
  3. David McFarland (gol.). The Oxford Companion to Animal Behaviour (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1981), t. 347.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) flight (animal locomotion). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.
  5. (Saesneg) burrowing (zoology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.