Sbwng

Oddi ar Wicipedia

Infertebratau anfudol cyntefig o'r ffylwm Porifera gyda chorff mandyllog sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan sgerbwd o ffibrau sbongin neu o sbigylau silicaidd neu galchaidd yw sbyngau. Maent nhw'n byw mewn dŵr, yn y môr yn bennaf, lle maent yn ffurfio cytrefi siâp afreolaidd ynghlwm wrth arwyneb tanddwr yn aml. Mae sbyngau yn hidl-ymborthwyr (hidlwyr bwyd) sy'n tynnu cerrynt dŵr i echdynnu maetholion ac ocsigen. Mae'r sgerbwd yn gallu cael ei ddefnyddio i ymolchi, ond heddiw mae'r mwyafrif o sbyngau ymolchi yn synthetig.

Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato