Jura (mynyddoedd)
Gwedd
| Math | masiff, fold and thrust belt |
|---|---|
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
| Sir | Vaud, Zürich, Aargau, Basel Wledig, Bern, Neuchâtel, Jura, Schaffhausen, Solothurn, Auvergne-Rhône-Alpes, Bourgogne-Franche-Comté, Grand Est |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 14,000 km² |
| Cyfesurynnau | 47.2431°N 6.0219°E |
| Hyd | 340 cilometr |
| Cyfnod daearegol | Mesosöig, Cainosöig |
![]() | |
| Deunydd | craig waddodol |

Mynyddoedd i'r gogledd o'r Alpau a ger y ffin rhwng y Swistir, yr Almaen a Ffrainc yw'r Jura.
Yn Ffrainc, mae'r rhan fwyaf o'r copaon yn région Bourgogne-Franche-Comté, gyda rhai yn région Auvergne-Rhône-Alpes, yn nwyrain département Ain, lle ceir y copa uchaf, Crêt de la Neige, 1720 medr. Yn y gogledd, maent yn ymestyn i'r rhan fwyaf deheuol région Grand Est. Yn y Swistir, mae'r mynyddoedd yng nghantonau Basel, Solothurn, Jura, Berne, Neuchâtel a Vaud.
Mae'r mynyddoedd wedi rhoi eu henwau i département Jura yn Ffrainc, a chanton Jura yn y Swistir.
Prif gopaon
[golygu | golygu cod]- 1720 m : Crêt de la Neige (Ain, Ffrainc)
- 1717 m : Le Reculet (Ain, Ffrainc)
- 1688 m : Colomby de Gex (Ain, Ffrainc)
- 1679 m : Mont Tendre (Vaud, y Swistir)
- 1677 m : La Dôle (Vaud, y Swistir)
- 1621 m : Grand Crêt d'Eau (Ain, Ffrainc)
- 1607 m : Chasseral (Berne, y Swistir)
- 1607 m : Le Chasseron (Vaud, y Swistir)
- 1588 m : Le Suchet (Vaud, y Swistir)
- 1560 m : Aiguilles de Baulmes (Vaud, y Swistir)
- 1540 m : Grand Colombier (Ain, Ffrainc)
- 1528 m : La Barillette (Vaud, y Swistir)
