Ynys y Pasg
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Pasg |
| Poblogaeth | 4,800 |
| Cylchfa amser | UTC−06:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg Tsile, Rapa Nui |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Tsile Ynysol |
| Sir | Isla de Pascua |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 164 km² |
| Uwch y môr | 242 metr, 211 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
| Cyfesurynnau | 27.12°S 109.35°W |
| Hyd | 24 cilometr |
![]() | |
Un o ynysoedd Polynesia, yn rhan o Tsile yn weinyddol, yw Ynys y Pasg[1] (Sbaeneg: Isla de Pascua, hefyd Rapa Nui). Mae'n dalaith i Tsile, a'r brifddinas yw Hanga Roa.

Mae'r ynys yn 163.6 cilomedr sgwar, ac roedd y bobologaeth yn 2005 yn 3,791. Rhoddwyd yr enw "Ynys y Pasg" iddi gan y fforiwr Jacob Roggeveen, a gyrhaeddodd yno ar ddydd Sul y Pasg, 1722. Yr enw Polynesaidd yw "Rapa Nui" ("craig fawr").
Mae'r ynys yn enwog am ei cherfluniau anferth, y moai. Mae'r mwyaf ohonynt yn naw medr a hanner o uchder. Ystyrir eu bod yn gerfluniau o hynafiaid y trigolion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1995.
Moai ar eu sefyll ar Ynys y Pasg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
