Gododdin (teyrnas)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gododdin a'u cymdogion
Tiriogaethau Prydain 500-700

Roedd y Gododdin yn llwyth ac yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd, sy'n awr yn ne-ddwyrain Yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr. Maent yn fwyaf adnabyddus fel pwnc y gerdd Y Gododdin, a briodolir i Aneirin.

Mae'r gair Gododdin (Hen Gymraeg Guotodin) yn tarddu o'r gair Brythoneg Votadini. Roedd canolfan y deyrnas yn Din Eidyn (Caeredin heddiw). I'r gogledd roedd yn ffinio ar diroedd y Pictiaid ac i'r gorllewin ar deyrnas Frythonig arall, Ystrad Clud. Yn y de, roedd yn ffinio ar Bryneich.

Yn 638 ymosodwyd ar Din Eidyn gan yr Angliaid, ac ymddengys i'r Gododdin ddod dan reolaeth yr Angliaid tua'r adeg yma.

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gododdin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Tegid
  • Padarn Beisrudd
  • Edern ap Padarn
  • Cunedda
  • Typiawn/Tybion ap Cunedda
  • Meridawn
  • Ysgyran
  • Mynyddog Mwynfawr
  • Coleddog ap Morgan Bryneich
  • Dyfnwal ap Mynyddog
  • Morgan ap Coleddog