Pen Rhionydd

Oddi ar Wicipedia

Lleoliad llys gogleddol y Brenin Arthur yw Pen Rhionydd (Cymraeg Canol: Penn Ryonyd, amrywiad: Penryn Rioned), yn ôl y traddodiadau Cymreig cynnar amdano a geir yn y gyfres Trioedd Ynys Prydain.

Cyfeirir at Ben Rhionydd mewn dau o Drioedd Ynys Prydain. Yn nhriawd 1 yng ngolygiad Rachel Bromwich, dywedir fod Arthur yn "Ben Teyrnedd ym Mhen Rhionydd yn y Gogledd" gyda Gwerthmul Wledig yn "Ben Hynaif" iddo a Chyndeyrn Garthwys yn "Ben Esgob".[1] Mae'r un triawd yn lleoli ei ddau lys arall yng "Nghelliwig yng Nghernyw" a Mynyw. Ceir triawd arall sy'n nodi Pen Rhionydd fel lleoliad un o dri llys Arthur hefyd.[2]

Yn ogystal, cyfeirir at Ben Rhionydd yn y testun 'Enwau Ynys Brydain' a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch fel lleoliad un o "dair talaith Ynys Brydain", ynghyd â Chelliwig (nas enwir) yng Nghernyw ac Aberffraw yng Ngwynedd.[3]

Ni cheir cyfeiriadau eraill at Ben Rhionydd yn nhestunau Cymraeg yr Oesoedd Canol.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae'n amlwg mai penrhyn neu bentir yw Pen Rhionydd. Cafwyd sawl cais i'w leoli yn y gorffennol ac mae'n destun damcaniaethu o hyd gan ymchwilwyr i Gylch Arthur. Mae Rachel Bromwich yn cynnig lleoliad yn nheyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd, efallai ar arfordir Galloway yn yr Alban. Cyfeiria Ptolemi at Rerigonion fel prifddinas y Novantae, llwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal honno.[4] Ar sail camgopîo neu gamddealltwriaeth gan rai hynafiaethwyr, a greodd y ffurf 'Pen[rhyn] Rhianedd' ('Penrhyn y Morwynion'), ceisiodd rhai ymchwilwyr ei uniaethu â Caeredin a elwir yn castellum puellarum ('castell y morwynion') yn y Rhamantau.[4] Ceir Morfa Rhianedd ger Llandudno hefyd, a gysylltir â Maelgwn Gwynedd yn Hanes Taliesin, ond mae'r traddodiad o blaid lleoliad yn yr Hen Ogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1978), triawd 1
  2. Trioedd Ynys Prydein, trioedd 1 a 85.
  3. Trioedd Ynys Prydein, t.228
  4. 4.0 4.1 Trioedd Ynys Prydein, t.4