Neidio i'r cynnwys

Gwenddolau

Oddi ar Wicipedia
Gwenddolau
Ganwyd520 Edit this on Wikidata
Bu farw573 Edit this on Wikidata
Man preswylCarwinley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Caer Wenddoleu Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Edit this on Wikidata
TadCeidiaw mab Arthwys Edit this on Wikidata

Brenin yn yr Hen Ogledd oedd Gwenddolau fab Ceidio (bu farw tua 573).

Dyluniad o Gwenddolau allan o Frut y Brenhinedd (Llsgr. Peniarth 23C); Ll. G. C.

Hanes a thraddodiad

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Bonedd Gwŷr y Gogledd, roedd Gwenddolau yn ddisgynnydd i Coel Hen. Yn y farddoniaeth sy'n ymwneud â Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin, cofnodir iddo gael ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Arfderydd gan Rhydderch Hael. Roedd Myrddin yn fardd llys i Wenddolau, ac aeth yn wallgof o ganlyniad i'r frwydr a mynd i Goed Celyddon i fyw.

Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y flwyddyn 573 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer Gosgorddfawr. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.

Roedd 'Gwyddbwyll Gwenddoleu' yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[1]

Yn agos i bentref Carwinley ar y ffin rhwng Lloegr a'r Alban mae hen ddinas. Hon yw Caer Wenddolau yn ôl pob tebyg.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III.