Tegau Eurfron

Oddi ar Wicipedia
Tegau Eurfron
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain Edit this on Wikidata
TadPelinor, brenin Cernyw Edit this on Wikidata
PriodCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
PlantCadfarch, Maethlu, Cawrdaf mab Caradog Freichfras, Maenarch ap Caradog, Cawrdraf ap Caradog Freichfras Edit this on Wikidata

Santes oedd Tegau Eurfron a gwraig Caradog Freichfras (477 - 540).

I fynaich yr Oesoedd Canol roedd hi'n fwyaf nodedig am dri pheth: ei chlogyn (neu fantell; un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain), ei ffyddlondeb a'i morwyndod. Fe'i disgrifir fel gwraig Caradog yn y Rhamantau Ffrengig, Livre de Carados a'r Le Manteau Mal Taillé, darn byr a ddyddir i ddiwedd 12g.

Mae'r cofnod cyntaf o'r enw 'Tegau' i'w gael yn y 14g, yng ngwaith Goronwy Ddu ap Tudur (1320-70) ac mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym (fl.1340-70). Mae Guto'r Glyn (fl.1440-93) yn cymharu ei noddwraig gyda hi, a'i noddwr i Garadog Freichfras. Dywed fod ei mantell yn cyrraedd y llawr, ond nad oedd mantell merched eraill cyn hired. Tua'r un pryd mynnodd Lewis Glyn Cothi (fl.1447-86) fod ei noddwr o linach Caradog a 'Thegau Eururon' [1] Cyfeiria'r beirdd hyn ati fel symbol o burdod ei morwyndod a'i ffydlondeb i'w gŵr. Cyfeirir ati gyda'r enw 'Eurfron' am y tro cyntaf yn 1576.

Storiau[golygu | golygu cod]

Ymledodd y storiau am Tegau o Gymru, drwy Brydain ac i Ffrainc:

  • Ceir storiau amrywiol amdani, ac yn eu plith ceir esboniad sut y cafodd ei henw 'Eurfron'. Ymddangosodd y cyfnod cyntaf o'r chwedl hon yn Livre de Carados, un o'r rhamantau Arthuraidd, Ffrengig.
  • Stori arall yw honno am ei mantell a oedd â gwerthoedd cyfrin, ac yn profi a oedd y ferch yn forwyn ai peidio. Cofnodir hon yn Le Manteau Mal Taillé, rhamant o ddiwedd y 12g (gol. Romania, XIV, (1885) tt.343380) ac yn ddiweddarach mewn baled Saesneg o'r enw The Boy and the Mantle (Dogfen Ffolio yr Esgob Percy; gol. J.W.Hales a Frederick J.Furnival, II.301-311). Ceir cysylltiad yn y stori hon â Gwenhwyfar, gwraig y Brenin Arthur. Mewn un cofnod dywedir i Wenhwyfar a merched llys y Brenin wisgo'r fantell, ond nad oedd yn eu ffitio, ac edrychai'n doredig, yn garpiau amdanynt. Pan roddodd Tegau'r wisg amdani - yr un oedd yr hanes, ac edrychai'n hyll amdani. Ond trodd dywedodd iddi gusannu ei chariad, Caradog, cyn ei briodi, ac ar hynny, ffitiodd y fantell amdani fel maneg.Ceir trydydd stori: am gorn yfed sy'n colli gwin dros unrhyw ddyn sydd â gwraig anniwair (hy yn anfoesol, yn chwantu dynion eraill neu'n odinebus).[2]Cyllell gig yw gwrthrych y prawf olaf a nodir, ac fel y storiau uchod, mae'n brawf o ffyddlondeb y person. Dim ond gŵr sydd â gwraig anniwair all ei defnyddio.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwaith Lewis Glyn Cothi gan E.D.Jones, 1953, t.194) a sonia mewn cerdd arall am 'Fantell Degeu'.
  2. [Lai du Cor gan Robert Biket; c.1175 (Ed. H.Dörner, Strasbourg, 1907).