Cawrdaf mab Caradog Freichfras
Cawrdaf mab Caradog Freichfras | |
---|---|
Bu farw | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 5 Rhagfyr |
Tad | Caradog Freichfras |
Mam | Tegau Eurfron |
Plant | Cathen, Caw ap Caur Ddû ap Caradog Vraichvras |
Pennaeth o'r Hen Ogledd a sant oedd Cawrdaf mab Caradog Freichfras, neu Cawrdaf Sant (bl. 6g). Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a Chymru ond mae'r traddodiadau amdano'n gymysg.
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]Cyfeirir at Gawrdaf yn y Trioedd fel un o "Dri Chynweisiad Ynys Prydain". Ystyr y gair Cymraeg Canol cynweisiad yw 'prif swyddog' neu 'dywysog'. Roedd yn fab i'r pennaeth Caradog Freichfras.[1] Roedd ei frodyr yn cynnwys Cadfarch a Maethlu.
Rhoddir ach Cawrdaf ym Monedd y Saint. Yn ôl yr achau hyn, roedd Cawrdaf yn dad i 'Medrawd', ond does dim sicrwydd os ydy'r Medrawd hwnnw i'w uniaethu â'r Medrod (Medrawd) adnabyddus, gelyn marwol y Brenin Arthur yn y Rhamantau Arthuraidd. Roedd Dyfnog (Defynog) Sant, sefydlydd Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, yn ŵyr i Gawrdaf.[2] Mam Cawrdaf oedd Tegau Eurfron, ferch Nudd Hael. Trwy ei dad roedd yn un o ddisgynyddion Coel Hen.
Yn y chwedl fwrlesg Breuddwyd Rhonabwy, rhestrir Cawrdaf fel un o gynghorwyr y Brenin Arthur.[3]
Yn ôl un traddodiad, sefydlodd Cawrdaf linach brenhinol yn rhanbarth Rhwng Gwy a Hafren.
Eglwysi
[golygu | golygu cod]Cysgegrir eglwys Abererch yn Eifionydd, Gwynedd i Gawrdaf Sant. Ceir Ffynnon Gawrdaf ym mynwent yr eglwys a charreg fawr a enwir yn 'Gadair Cawrdaf', gyda eisteddle ynddo. Roedd defod hynod yn gysylltiedig â gŵyl y sant yn yr eglwys.[4]
Cof
[golygu | golygu cod]Gwylmabsant: 5 Rhagfyr (neu 12 Tachwedd).
Cymerodd y bardd William Ellis Jones (1795-1848), brodor o Abererch, yr enw barddol 'Cawrdaf' a chyfeirir wrtho gan amlaf wrth yr enw hwnnw.