Abererch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Abererch
Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch - geograph.org.uk - 1289580.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Cadfarch Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.902°N 4.386°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH395365 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Abererch

Pentref ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd, rhyw filltir i'r dwyrain o dref Pwllheli yw Abererch ("Cymorth – Sain" ynganaid ). Cyfeirnod OS: SH 39930 36719. Mae'n rhan o gymuned Llannor.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y pentref ar Afon Erch ychydig cyn iddi gyrraedd y môr, a rhyw fymryn i'r gogledd o'r briffordd A497. Afon Erch yw ffin orllewinol Eifionydd, ac ystyrir y pentref yn rhan o'r ardal yma. Mae gan Abererch orsaf reilffordd, ond mae dipyn i'r de-ddwyrain o'r pentref ei hun, ger Morfa Abererch. Yma ceir tua thair milltir o draeth tywodlyd, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Benychain a gwersyll gwyliau Butlins.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

I'r gogledd-ddwyrain mae hen blasdy Penarth Fawr.

Ceir eglwys hynafol Cawrdaf Sant yn Abererch. Ceir Ffynnon Gawrdaf i'r gogledd orllewin mewn cae rhwng y pentref ac ysbyty Bryn Beryl ac i'r dwyrain o'r penref ceir carreg fawr a enwir yn 'Gadair Cawrdaf', gydag eisteddle ynddi. Roedd defod hynod yn gysylltiedig â gŵyl y sant yn yr eglwys.[1]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).