Afon yn ardal Dwyfor, yng Ngwynedd, yw Afon Erch. Mae'n dynodi'r hen ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Ei hyd yw tua 8 milltir.
Mae'r afon yn tarddu ar lethrau deheuol Gyrn Ddu Mae'n aberu ym Mae Ceredigion ger Pwllheli ar ôl llifo trwy bentref Abererch.