Catterick
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Richmondshire, Gogledd Swydd Efrog |
| Poblogaeth | 3,155, 2,717, 2,743 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 54.372°N 1.623°W |
| Cod SYG | E04007465 |
| Cod OS | SE240980 |
| Cod post | DL10 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yng yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Catterick,[1] fe'i gelwir weithiau yn Catterick Village i'w wahaniaethu oddi wrth wersyll y fyddin gerllaw, Catterick Garrison. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Richmondshire.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,155.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Dyddia'r pentref o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd Cataractonium yn gaer Rufeinig yn gwarchod y groesfan dros Afon Swale. Cyfeirir ar y lle yn Geographia Ptolemi fel Κατουρακτονιον.
Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai Catterick yw Catraeth, lle bu brwydr rhwng teyrnas y Gododdin a'r Eingl tua'r flwyddyn 600. Clodfodir yr arwyr a syrthiodd yn y frwydr hon yn y gerdd Y Gododdin gan Aneirin. Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19g oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick oedd "Catraeth" Y Gododdin. Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 1 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 1 Medi 2020
