Richmondshire
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Prifddinas | Richmond |
| Poblogaeth | 53,244 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,318.707 km² |
| Cyfesurynnau | 54.33°N 2.012°W |
| Cod SYG | E07000166 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Richmondshire District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Richmondshire.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,319 km², gyda 53,730 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio Ardal Hambleton i’r dwyrain, Bwrdeistref Harrogate i’r de-ddwyrain, Ardal Craven i’r de-orllewin, Cumbria i’r gorllewin, a Swydd Durham i’r gogledd.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Richmond. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Catterick, Colburn, Leyburn a Middleham, yn ogystal â Gariswn Catterick. Mae’r ardal yn cynnwys y dyffrynnoedd Wensleydale a Swaledale, rhan o Barc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Swydd Efrog; mae Teesdale i’r gogledd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 5 Hydref 2020
