Ardal Craven
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
| Prifddinas | Skipton |
| Poblogaeth | 56,832 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,177.3882 km² |
| Cyfesurynnau | 53.95°N 2.02°W |
| Cod SYG | E07000163 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Craven District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Ardal Craven (Saesneg: Craven District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,177 km², gyda 57,142 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio Richmondshire i’r gogledd-ddwyrain, Bwrdeistref Harrogate i’r dwyrain, Gorllewin Swydd Efrog i’r de-ddwyrain, Swydd Gaerhirfryn i’r gorllewin, a Cumbria i’r gogledd-orllewin.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 70 o blwyfi sifil. Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Skipton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bentham, Grassington a Settle. Mae Craven yn cynnwys y rhannau uchaf y dyffrynnoedd Airedale, Wharfedale, a Ribblesdale ym Mharc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Swydd Efrog.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020
---
