Ardal Hambleton
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
| Prifddinas | Northallerton |
| Poblogaeth | 91,134 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,311.2282 km² |
| Cyfesurynnau | 54.334°N 1.429°W |
| Cod SYG | E07000164 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Hambleton District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Ardal Hambleton (Saesneg: Hambleton District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,311 km², gyda 91,594 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough ac Ardal Ryedale i’r dwyrain, Dinas Efrog i’r de, Bwrdeistref Harrogate i’r de-orllewin, Richmondshire i’r gorllewin, a Bwrdeistrefi Stockton-on-Tees, Middlesbrough, a Redcar a Cleveland i’r gogledd.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Northallerton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bedale, Easingwold, Stokesley a Thirsk. Mae tua 75% o’r ardal ym Mroydd Mowbray ac Efrog, a 16% ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.
Mae enw yr ardal yn dod o’r Bryniau Hambleton, rhan o’r Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog, sy i’r dwyrain o’r ardal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 5 Hydref 2020
