Dinas Efrog
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal gyda statws dinas, bwrdeisdref, sir an-fetropolitan, ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Prifddinas | Efrog |
| Poblogaeth | 209,893 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 271.937 km² |
| Cyfesurynnau | 53.96396°N 1.09142°W |
| Cod SYG | E06000014 |
| GB-YOR | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of City of York Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Dinas Efrog (Saesneg: City of York). Mae'r awdurdod unedol yn cynnwys dinas gadeiriol Efrog a phentrefi cyfagos.
Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 272 km², gyda 210,618 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Ardaloedd Hambleton a Ryedale i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, Ardal Selby i'r de, a Bwrdeistref Harrogate i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr awdurdod unedol ar 1 Ebrill 1996. Roedd yn gyfuniad o ddinas Efrog, a oedd yn ardal an-fetropolitan yn sir Gogledd Swydd Efrog, yn ogystal â phlwyfi o Fwrdeistref Harrogate ac Ardaloedd Ryedale a Selby. Ar y dyddiad hwnnw peidiodd dinas Efrog â bod yn rhan o sir an-fetropolitan Gogledd Swydd Efrog.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020
- ↑ The North Yorkshire (District of York) (Structural and Boundary Changes) Order 1995 (Saesneg); adalwyd 6 Hydref 2020
