Ardal Selby
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
| Prifddinas | Selby |
| Poblogaeth | 89,106 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 599.3108 km² |
| Cyfesurynnau | 53.777°N 1.079°W |
| Cod SYG | E07000169 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Selby District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Ardal Selby (Saesneg: Selby District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 599 km², gyda 90,620 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Harrogate a Dinas Efrog i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd plwyfi Acaster Malbis, Askham Bryan, Askham Richard, Bishopthorpe, Copmanthorpe, Deighton, Dunnington, Elvington, Fulford, Heslington, Kexby, Naburn a Wheldrake i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.[2]
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Selby, ond mae tref Tadcaster hefyd yn yr ardal, yn ogystal â phentrefi mawr Cawood a Sherburn in Elmet. Mae rhan fawr yr ardal yn gorwedd yn Lefelau Penhwmbr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020
- ↑ The North Yorkshire (District of York) (Structural and Boundary Changes) Order 1995 (Saesneg); adalwyd 6 Hydref 2020
