Bwrdeistref Stockton-on-Tees
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Prifddinas | Stockton-on-Tees |
| Poblogaeth | 199,966 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 204.9625 km² |
| Cyfesurynnau | 54.55°N 1.33°W |
| Cod SYG | E06000004 |
| GB-STT | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Stockton-on-Tees Borough Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Bwrdeistref Stockton-on-Tees (Saesneg: Borough of Stockton-on-Tees). Fe'i rhennir gan Afon Tees yn rhan ogleddol yn sir seremonïol Swydd Durham a rhan ddeheuol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog. Mae'r rhan yn Swydd Durham yn fwy. Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Middlesbrough a Redcar a Cleveland.
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 204 km², gyda 197,348 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Hartlepool ac awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd, Bwrdeistref Darlington i'r gorllewin, Ardal Hambleton i'r de, a Bwrdeistref Middlesbrough i'r dwyrain.


Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996.
Rhennir y fwrdeistref yn 19 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Stockton-on-Tees, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Billingham, Eaglescliffe, Ingleby Barwick, Thornaby-on-Tees a Yarm.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Gorffennaf 2020
