Swydd Durham (awdurdod unedol)
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal cyngor sir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Swydd Durham |
Poblogaeth | 526,980 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Durham (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,225.9685 km² |
Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead, Dinas Sunderland, Northumberland, Bwrdeistref Hartlepool, Bwrdeistref Darlington, Bwrdeistref Stockton-on-Tees, Ardal Eden, Cumbria |
Cyfesurynnau | 54.7606°N 1.4656°W |
Cod SYG | E06000047 |
GB-DUR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Durham County Council |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Swydd Durham.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 2,226 km², gyda 530,094 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Hartlepool, Bwrdeistref Stockton-on-Tees, Bwrdeistref Darlington a Gogledd Swydd Efrog i'r de, Cumbria i'r gorllewin, Northumberland i'r gogledd, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel sir an-fetropolitan â chanddi wyth ardal an-fetropolitan dan ei rheolaeth (Ardal Sedgefield, Dinas Durham, Ardal Chester-le-Street, Ardal Derwentside, Ardal Easington, Ardal Teesdale, Ardal Wear Valley a Bwrdeistref Darlington). Fodd bynnag ym 1997 daeth Bwrdeistref Darlington yn awdurdod unedol annibynnol, ac yn 2009 daeth y sir ei hun yn awdurdod unedol hefyd, a diddymwyd yr hen ardaloedd an-fetropolitan.
Rhennir yr awdurdod yn 136 o blwyfi sifil, gyda nifer o ardaloedd di-blwyf. Mae ei bencadlys yn ninas Durham. Mae aneddiadau eraill yn yr awdurdod yn cynnwys trefi Barnard Castle, Bishop Auckland, Consett, Crook, Chester-le-Street, Easington, Ferryhill, Newton Aycliffe, Peterlee, Seaham, Sedgefield, Shildon, Spennymoor, Stanhope, Stanley, Tow Law, Willington a Wolsingham.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Gorffennaf 2020