Bwrdeistref Hartlepool
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Poblogaeth | 93,242 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Durham (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 93.5595 km² |
| Cyfesurynnau | 54.6864°N 1.2108°W |
| Cod SYG | E06000001 |
| GB-HPL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Hartlepool Borough Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Hartlepool (Saesneg: Borough of Hartlepool). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Middlesbrough, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 93.3 km², gyda 93,663 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd-orllewin, Bwrdeistref Stockton-on-Tees i'r de, a Môr y Gogledd i'r gogledd-ddwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996.
Rhennir y fwrdeistref yn wyth plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Hartlepool, lle mae ei phencadlys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020
