Bwrdeistref Middlesbrough
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Prifddinas | Middlesbrough |
| Poblogaeth | 148,285 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Siroedd seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 53.8888 km² |
| Cyfesurynnau | 54.5731°N 1.2381°W |
| Cod SYG | E06000002 |
| GB-MDB | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Middlesbrough Borough Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Middlesbrough (Saesneg: Borough of Middlesbrough). Mae'r awdurdod unedol yn cynnwys tref fawr Middlesbrough, a mae'n rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees.
Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 53.9 km², gyda 140,980 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Redcar a Cleveland i'r dwyrain, Ardal Hambleton i'r de, a Bwrdeistref Stockton-on-Tees i'r gorllewin a'r gogledd.

Daeth Middlesbrough yn fwrdeistref sirol yn Riding Gogleddol Swydd Efrog yn 1889. Yn 1968 daeth y fwrdeistref yn rhan o Fwrdeistref Sirol Teesside, a daeth yn rhan o sir Cleveland ar 1 Ebrill 1974. Diddymwyd Cleveland ar 1 Ebrill 1996, a daeth Middlesbrough yn awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog.
Mae'r fwrdeistref yn cynnwys canol tref Middlesbrough, yn ogystal â maestrefi fel Linthorpe, Acklam, a Coulby Newham. Mae'n gorwedd yn rhan isaf Cwm Tees, tua phum milltir o aber y Tees, a mae'r Bryniau Eston yn edrych dros y fwrdeistref o'r de.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 7 Hydref 2020
