Bro Efrog
| Math | dyffryn, gwastatir |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.95°N 1.08°W |
![]() | |
Ardal o dir isel yn Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Bro Efrog, yn ogystal ag Ardal Cymeriad Cenedlaethol.[1] Ardal amaethyddol fawr ydy'r fro, a mae'r coridor trafnidiaeth gogledd–de mwyaf yng Ngogledd Lloegr.

Tybir yn aml bod Bro Efrog yn ymestyn o Afon Tees i'r gogledd i Foryd Humber i'r de. Yn wir, mae Bro Efrog yn unig rhan ganolog yr ardal hwn, gyda Bro Mowbray i'r gogledd a Lefelau Penhwmbr i'r de. Mae'n ffinio â Bryniau Howard a Wolds Swydd Efrog i'r dwyrain a'r Penwynion i'r gorllewin. Mae crib isel o Farian Escrick yn nodi ei ffin ddeheuol. Mae Efrog yn gorwedd ynghanol y fro.
Afon fwyaf yr ardal ydy'r Ouse, ac ei lednentydd ydyn Afonydd Ure, Nidd a Foss. I ddwyrain yr ardal mae Afon Derwent yn llifo tua'r de i'r Ouse.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Natural England: NCA Profile (28 Vale of York); adalwyd 24 Hydref 2020
