Sgwrs:Elmet

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yn Durham, ceir yr enwau Pont Elvet a Stryd Elvet (Old Elvet Street), gyda'r eglurhad lleol mai o'r gair Anglo Saxonaidd Aelfred (ynys yr elyrch) y daw. Sgwn i a oedd cysylltiad? Gweler y wefan hon Llywelyn2000 10:40, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Ydy cerddi Taliesin y sonir amdanynt yn yr erthygl gan rhywun? Byddai'n ychwanegiad gwerthfawr. Diolch. Llywelyn2000 14:39, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi ehangu'r paragraff am y cerddi. Yn anffodus mae'r testunau yn astrus braidd a byddai angen aralleiriad i Gymraeg Diweddar os am eu dyfynnu. Yn sicr mae angen gwaith ar hyn (dwi ddim yn siwr faint fedrem ni ddibynnu ar y wybodaeth hanesyddol yn yr erthygl ar y wici Saesneg - fel arfer! - ond gellid eu haddasu'n ofalus efallai) Anatiomaros 15:26, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Roedd hi'n rhoi'r clod i'r Sacsoniaid! Dwi wedi ei hailwampio ryw gymaint y bore ma. Testun cerddi Taliesin: Peredur Lynch, ble wyt ti? Llywelyn2000 15:39, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Bydd yn ofalus iawn gyda rhai o'r pethau ar y wici S. Mae'r map, er enghraifft, yn cynnwys pethau digon amheus, yn enwedig "teyrnas" 'Luitcoet' (Llwydcoed), sy 'mond ar gael ar y wici Saesneg! (Dyna pam wnes i ddim rhoi o yn yr erthyglau Cymraeg) Anatiomaros 16:15, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]