Anarawd ap Rhodri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anarawd ap Rhodri
Ganwyd 0855 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 0916 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swydd brenin Edit this on Wikidata
Tad Rhodri Mawr Edit this on Wikidata
Mam Angharad ferch Meurig Edit this on Wikidata
Plant Idwal Foel Edit this on Wikidata
Llinach Llinach Aberffraw Edit this on Wikidata

Anarawd ap Rhodri (bu farw 916), oedd brenin Gwynedd rhwng 878 a 916.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd tad Anarawd, Rhodri Mawr wedi dod yn frenin y rhan fwyaf o Gymru erbyn diwedd ei oes, ond pan fu farw yn 878 rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion. Etifeddodd Anarawd orsedd Gwynedd. Cofnodir i Anarawd a'i frodyr Cadell a Merfyn gydweithredu'n glos yn erbyn brenhinoedd llai Cymru. Ymosododd yr Iarll Aethelred o Fercia ar Wynedd yn 881, ond llwyddodd Anarawd i ennill buddugoliaeth waedlyd dosto mewn brwydr ger ceg Afon Conwy (Brwydr Dial Duw), a glodforir gan y croniclydd fel "Dial Duw am Rodri", gan fod Rhodri wedi ei ladd mewn brwydr yn erbyn y Mersiaid.[1]

Gwnaeth Anarawd gytundeb a brenin Danaidd Efrog i geisio gwarchod rhag ymosodiadau eraill gan Mercia. Pan brofodd y cytundeb yma'n anfoddhaol, daeth i gytundeb ag Alffred Fawr o Wessex, gan ymweld a llys Alffred. Yn gyfnewid am amddiffyniad Alffred, derbyniodd Anarawd flaenoriaeth Alffred. Dyma'r tro cyntaf i frenin Gwynedd dderbyn blaenoriaeth brenin Seisnig, a daeth yn gynsail i'r goron Seisnig hawlio gwarogaeth o hynny ymlaen.[1]

Yn 894 gallodd Anarawd amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiad gan lu Danaidd ar Ogledd Cymru, a'r flwyddyn ddilynol ymosododd ar Geredigion ac Ystrad Tywi yn y de. Adroddir fod ganddo filwyr Saesnig yn ei fyddin ar gyfer yr ymosodiadau hyn. Yn 902 cafodd fuddugoliaeth arall pan ymosodwyd ar Ynys Môn gan rai o Ddaniaid Dulyn dan arweiniad Ingimund. Bu farw Anarawd yn 916 a dilynwyd ef gan ei fab Idwal Foel.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co).
Anarawd ap Rhodri
Ganwyd: ? Bu farw: 916
Rhagflaenydd:
Rhodri Mawr ap Merfyn
Brenin Gwynedd
878916
Olynydd:
Idwal Foel ab Anarawd