Tudur Hen
Gwedd
| Tudur Hen | |
|---|---|
| Bu farw | 1311 |
| Tad | Goronwy ab Ednyfed |
| Mam | Morfudd ferch Meurig |
| Plant | Goronwy ap Tudur Hen, Jane ferch Tudur Hên ap Gronwy ab Ednyfed Fychan |
Aelod o deulu Tuduriaid Penmynydd oedd Tudur Hen neu Tudur ap Goronwy (bu farw 1311).
Roedd yn fab i Goronwy ab Ednyfed, distain Gwynedd dan Llywelyn ap Gruffudd ac yn ŵyr i Ednyfed Fychan, distain Gwynedd dan Llywelyn Fawr a Dafydd ap Llywelyn. Cymerodd Tudur ran yng ngwrthryfel Madog ap Llywelyn. Priododd Angharad ferch Ithel Fychan, ac etifeddwyd ei diroedd ym Mhenmynydd gan ei fab, Goronwy ap Tudur Hen.