Aeddan ap Blegywryd
Gwedd
| Aeddan ap Blegywryd | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 g Teyrnas Gwynedd |
| Bu farw | 1018 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | Teyrnas Gwynedd |
| Rhagflaenydd | Cynan ap Hywel |
Roedd Aeddan ap Blegywryd (? – 1018) yn frenin Gwynedd.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am Aeddan, oherwydd mae'n gyfnod yn hanes Cymru na chafodd ei groniclo rhyw lawer. Nid oedd yn llinach Idwal Foel ac mae'n bosibl nad oedd o waed brenhinol. Enillodd orsedd Gwynedd yn 1005, a gellir tybio ei fod wedi gorchfyu'r brenin blaenorol, Cynan ap Hywel mewn brwydr. Teyrnasodd hyd 1018, pan laddwyd ef a'i bedwar mab mewn brwydr yn erbyn Llywelyn ap Seisyll, a gipiodd yr orsedd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Aeddan mab Blegwryd", Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun
| Rhagflaenydd: Cynan ap Hywel |
Brenin Gwynedd 1005–1018 |
Olynydd: Cipiwyd gan Llywelyn ap Seisyll |