Cadfan ap Iago
| Cadfan ap Iago | |
|---|---|
| Ganwyd | 580 |
| Bu farw | c. 625, c. 617 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Swydd | Brenin Gwynedd, legendary king of Britain |
| Tad | Iago ap Beli |
| Plant | Cadwallon ap Cadfan |
Roedd Cadfan ap Iago (c. 580–625) (Lladin: Catamanus) yn frenin Gwynedd o tua 615 hyd ei farwolaeth yn 625.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd Cadfan yn fab i Iago ap Beli, ac mae'n debygol iddo ddod yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad tua 615, yn fuan ar ôl Brwydr Caer pan orchfygwyd byddin Powys a Gwynedd gan y brenin Aethelfrith o deyrnas Northumbria.
Ystyrid Cadfan yn frenin doeth a chyfiawn, yn nodedig am ei allu i gynnal cyfraith a heddwch mewn cyfnod cythryblus. Mae ei garreg fedd i'w gweld yn eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, nepell o safle'r llys brenhinol yn Aberffraw. Mae'r arysgrif ar y garreg yn cyfeirio ato fel "Catamanus rex sapientisimus opinatisimus omnium regum" (="Y Brenin Cadfan, y doethaf a'r enwocaf o'r holl frenhinoedd"). Dilynwyd ef gan ei fab Cadwallon.

Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Cyfeirir at Cadfan yn Brut y Tywysogion wrth enwi ei wyr, 'Cadwalader Fendigaid, mab Cadwallon, mab Cadfan, brenin y Brythoniaid'.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. tt. 2–3.
| Rhagflaenydd : | Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : |