Tudur Fychan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tudur ap Goronwy)
Neidio i: llywio, chwilio

Un o deulu Tuduriaid Môn oedd Tudur Fychan neu Tudur ap Goronwy, Arglwydd Penmynydd (ganwyd tua 1310 ym Mheniarth; bu farw 1367). Roedd yn fab i Goronwy ap Tudur Hen o Drecastell a Gwerfyl ferch Madog.

Priododd a Margaret ferch Thomas a chawsant o leiaf bedwar mab: Goronwy ap Tudur Fychan, Rhys ap Tudur, Gwilym ap Tudur a Maredudd ap Tudur. Pan aeth Owain mab Maredudd i Lundain, cymerodd enw ei daid i'w alw ei hun yn Owain Tudur yn hytrach nag Owain ap Maredudd.

Canodd Iolo Goch farwnad iddo.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]