Gruffudd ap Rhys

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd ap Rhys
Ganwydc. 1090 Edit this on Wikidata
Bu farw1137 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadRhys ap Tewdwr Edit this on Wikidata
MamGwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn Edit this on Wikidata
PriodGwenllian ferch Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
PlantMaredudd ap Gruffudd, Anarawd ap Gruffudd, Cadell ap Gruffudd, Rhys ap Gruffudd, Nest ferch Gruffydd ap Rhys, Gwladus ferch Gruffudd, Rhys Fychan ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Nn ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Owain ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr Edit this on Wikidata
Cyfyngwyd Gruffudd ap Rhys i ran fechan o hen deyrnas ei dad, Rhys ap Tewdwr. Dangosir y Cantref Mawr mewn melyn; rhannau llwyd yn eiddo i arglwyddi Normanaidd.

Roedd Gruffudd ap Rhys (bu farw 1137) yn dywysog rhan o deyrnas Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Pan laddwyd tad Gruffudd, Rhys ap Tewdwr yn 1093, cymerodd y Normaniaid feddiant o'i deyrnas, a threuliodd Gruffudd ei ieuentid mewn alltudiaeth yn Iwerddon. Tua 1113 dychwelodd i Gymru ac wedi rhai blynyddoedd o grwydro o le i le, llwyddodd i gael digon o wŷr i'w ddilyn i fedru ymosod ar nifer o gestyll a threfi Normanaidd yn 1116. Cafodd gryn lwyddiant, ond methodd ymosodiad ar Aberystwyth a gwasgarodd byddin Gruffudd.

Yn ddiweddarach daeth Gruffudd i gytundeb a Harri I, brenin Lloegr a chaniatawyd iddo reoli rhan fechan o deyrnas ei dad, y Cantref Mawr. Cyn hir ymosodwyd arno gan yr arglwyddi Normanaidd o'i amgylch, a gorfodwyd ef i ffoi i Iwerddon eto am gyfnod yn 1127. Yn 1136 ymunodd Gruffudd ag Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr, meibion Gruffydd ap Cynan o Wynedd, mewn ymgyrch yn erbyn y Normaniaid a ddechreuwyd gyda Brwydr Garn Goch ar ddydd Calan 1136. Tra'r oedd Gruffudd oddi cartref, cododd ei wraig Gwenllian ferch Gruffudd fyddin ac ymosododd ar gastell Normanaidd Cydweli, ond gorchfygwyd hi a'i lladd.

Enillodd Gruffudd ei hun, gydag Owain a Chadwaladr, fuddugoliaeth ysgubol dros y Normaniaid yn Mrwydr Crug Mawr ger Aberteifi yr un flwyddyn. Yn 1137 cafodd Gruffudd fwy o lwyddiant yn Nyfed, ond bu farw yn fuan wedyn mewn amgylchiadau ansicr.

Meibion[golygu | golygu cod]

Roedd gan Gruffudd bedwar mab gan Gwenllian, Maredudd, Rhys, Morgan a Maelgwn. Roedd ganddo hefyd ddau fab hŷn o briodas flaenorol, Anarawd a Chadell, ac o leiaf ddwy ferch, Gwladus and Nest. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Anarawd. Daeth tri arall o'i feibion, Cadell, Maredudd a Rhys (a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel Yr Arglwydd Rhys), i deyrnasu ar Ddeheubarth yn eu tro.

O'i flaen :
Rhys ap Tewdwr
Teyrnoedd Deheubarth
Gruffudd ap Rhys
Olynydd :
Anarawd ap Gruffudd