Gwriad ap Elidyr

Oddi ar Wicipedia
Gwriad ap Elidyr
Ganwydc. 755 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Manaw a'r Ynysoedd Edit this on Wikidata
TadElidir ap Sandde Edit this on Wikidata
PriodEthyllt ferch Cynan Edit this on Wikidata
PlantMerfyn Frych, Cadrod Hardd ap Gwyriad ab Elidwr ap Sandde Edit this on Wikidata

Ceir sôn am Gwriad ap Elidyr neu Gwriad Manaw ar ddiwedd yr 8fed ganrif yng Nghymru. Ychydig iawn a wyddys amdano, ac fe'i gwelir yn bennaf yn y cofnod hanesyddol mewn cysylltiad â'i fab Merfyn Frych, brenin Gwynedd o tua 825 hyd 844 a sylfaenydd llinach y Merfynion.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ni wyddys bron dim am gefndir Gwriad. Priododd Ethyllt ferch Cynan, merch Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd. Yn ddiweddarach daeth eu mab Merfyn Frych yn frenin cyntaf Gwynedd na ddaeth o linach ei sylfaenydd Cunedda. Mae'n amlwg bod Merfyn wedi hawlio'r orsedd trwy ei fam yn hytrach na thrwy Gwriad, ac roedd yn defnyddio'i allu a'i enw da ei hun i atgyfnerthu'r hawlio anarferol hwn.[1][2] Yn ôl llyfr achau yn Ngholeg yr Iesu, yr oedd Gwriad yn fab i Elidyr ac yn un o ddisgynyddion Llywarch Hen a Coel Hen, brenhinoedd yr Hen Ogledd.[2][3] Dengys barddoniaeth mai "o wlad Manaw" roedd Merfyn, enw lle Brythoneg a oedd yn cyfeirio atsawl ardal, gan gynnwys Manaw Gododdin, yr ardal o amgylch Moryd Forth. Byddai'r ardal hon yn yr Hen Ogledd yn gyson â disgyniad Gwriad o linach ogleddol Llywarch.[4] Cefnogwyd tarddiad ym Manaw Gododdin gan ysgolheigion megis William Forbes Skene a John Edward Lloyd.[5]

Mae ysgolheigion eraill yn cysylltu Gwriad ag Ynys Manaw yn hytrach na Manaw Gododdin, yn enwedig ar ôl darganfod croes o'r 8fed neu'r 9fed ganrif ym 1896 ar yr ynys â'r arysgrif Crux Guriat ("Croes Gwriad") arno.[5][6]. Codwyd y groes yng ngogledd yr ynys ger Maughold.[7] Ysgrifennodd Lloyd fod y darganfyddiad hwn "yn ddiau yn cryfhau'r achos" mai un o Ynys Manaw ydoedd.[5] Awgrymodd John Rhys y gallai Gwriad fod wedi llochesu ar Ynys Manaw yn ystod yr ymrafael dynastig gwaedlyd yng Ngwynedd rhwng Cynan Dindaethwy a Hywel cyn esgyniad Merfyn i'r orsedd.[8] Mae lleoliadau eraill wedi'u hawgrymu ar gyfer "Manaw" hefyd, gan gynnwys Iwerddon, Galloway a Phowys.[1]

Nododd Rhys ymhellach fod Trioedd Ynys Prydain yn sôn am "Gwryat fab Gwryan yn y Gogledd", ymhlith y "Tri Brenin oedd yn Feibion Dieithriaid", ac mae'n awgrymu bod hyn yn cyfeirio at dad Merfyn.[8][9] Fodd bynnag, mae hyn yn gwrthdaro ag achau MS 20 Coleg yr Iesu, lle mai Elidyr yw tad Gwriad. Mae James E. Fraser yn awgrymu yn hytrach mai'r Brenin Guret o Alt Clut (a fu farw yn 658 yn ôl Annals Ulster) yw Gwriad y trioedd.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Thornton, David E. (2004), "Merfyn Frych (d. 844)", Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, http://www.oxforddnb.com/view/article/18587
  2. 2.0 2.1 Lloyd, John Edward (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. Longmans, Green, and Co. t. 323. Cyrchwyd May 30, 2013. Gwriad.
  3. Genealogies from Jesus College MS 20 17: "Rodri ma6r m Meruyn vrych m G6rhyat m Elidyr m sandef m Alcun m tegyth m Ceit m douc m Llewarch hen m Elidyr lydanwyn m Meircha6n m G6rgust m Keneu m Coil hen. mal y mae vchot".
  4. Lloyd, John Edward (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. Longmans, Green, and Co. tt. 323–324. Cyrchwyd May 30, 2013. Gwriad.
  5. 5.0 5.1 5.2 Lloyd, John Edward (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. Longmans, Green, and Co. t. 324 and note. Cyrchwyd May 30, 2013. Gwriad.
  6. Kermode, Philip Moore Callow (1897). Meyer, Kuno; Stern, L. Chr.. eds. "A Welsh Inscription in the Isle of Man". Zeitschrift für celtische Philologie (Halle: Max Niemeyer) I: 48–53. https://books.google.com/books?id=_Z4MAAAAIAAJ&pg=PA47-IA1.
  7. (Saesneg) Kari Maund The Welsh Kings: Warriors, warlords and princes. The history Press, Stroud 2006 ISBN 9780752429731 p.48.
  8. 8.0 8.1 Rhys, John (1897). Meyer, Kuno; Stern, L. Chr.. eds. "Note on Guriat". Zeitschrift für celtische Philologie (Halle: Max Niemeyer) I: 52, 53. https://books.google.com/books?id=_Z4MAAAAIAAJ&pg=PA52.
  9. "Three kings who were of the sons of strangers: Gwryat son of Gwryan in y Gogledd; and Cadafel son of Cynfedw in Gwynedd; and Hyreidd Hir son of Bleidic in Deheubarth." Skene, William Forbes (1868b), The Four Ancient Books of Wales, II, Edinburgh: Edmonston and Douglas (published 1868), p. 368, https://books.google.com/books?id=7uEIAAAAQAAJ
  10. Fraser, James E. (2009), From Caledonia to Pictland: Scotland to 795, New Edinburgh History of Scotland, I, Edinburgh University Press, p. 185, ISBN 978-0-7486-1232-1