Kuno Meyer

Oddi ar Wicipedia
Kuno Meyer
Ganwyd20 Rhagfyr 1858 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1919 Edit this on Wikidata
Leipzig Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Ernst Windisch Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, academydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Almaenwr oedd Kuno Meyer (20 Rhagfyr 1858 - 11 Hydref 1919). Fe'i ganwyd yn Hamburg, yn frawd i'r hanesydd Clasurol Eduard Meyer (1855-1930).

Cafodd yrfa hir a disglair fel ysgolhaig. Ar ôl astudio ieithyddiaeth dan Ernst Windisch ac eraill, aeth i Loegr i fod yn athro llenyddiaeth Almaeneg a'r iaith Almaeneg ym Mhrifysgol Lerpwl (1884-1911). Yn 1911 olynodd yr enwog Heinrich Zimmer fel Athro Ieithyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Berlin, a bu'n dysgu yno hyd ei farwolaeth yn 1919, yn Leipzig.

Meyer oedd y prif symbylydd tu ôl i sefydlu yr Ysgol Dysg Wyddeleg yn Nulyn yn 1903. Sefydlodd ddau o'r prif gylchgronau academaidd sy'n ymwneud ag astudiaethau Celtaidd. Un o'r rhain oedd y Zeitschrift für celtische Philologie yn yr Almaen, gyda Ludwig Christian Stern. Yr ail oedd Ériu, a sefydlodd ar y cyd â'r athro John Strachan.

Golygodd a chyfieithodd sawl testun Gwyddeleg, gan gynnwys Immram Brain. Rhoddwyd ddinasyddiaeth er anrhydedd i Kuno Meyer am ei wasanaeth i lenyddiaeth Wyddeleg a diwylliant Iwerddon gan ddinasoedd Dulyn a Cork yn 1912.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • S. Ó Lúing, Kuno Meyer 1858-1919 (Dulyn, 1991). Cofiant.