Maredudd ap Bleddyn

Oddi ar Wicipedia
Maredudd ap Bleddyn
Ganwyd1047 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Chwefror 1132, 1135 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
TadBleddyn ap Cynfyn Edit this on Wikidata
MamClywch Am Bowd Edit this on Wikidata
PlantMadog ap Maredudd, Iorwerth Goch ap Maredudd, Gruffudd ap Maredudd ap Bleddyn, Angharad ferch Maredudd ap Bleddyn, Hywel ap Maredudd ap Bleddyn, Iorwerth Gôch ap Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn, Dafydd ap Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn Edit this on Wikidata

Tywysog rhan o deyrnas Powys oedd Maredudd ap Bleddyn (bu farw 1132).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Maredudd yn fab i frenin Powys a Teyrnas Gwynedd, Bleddyn ap Cynfyn. Pan laddwyd Bleddyn yn 1075, rhannwyd Powys rhwng tri o'i feibion, Iorwerth, Cadwgan a Maredudd.

Yr adeg honno, ymddengys mai Maredudd oedd y lleiaf pwerus o'r brodyr, a'r un y ceir leiaf o sôn amdano yn y brutiau. Daliai'r tri brawd eu tiroedd oddi wrth Robert de Bellême, 3ydd Iarll Amwythig. Yn 1102, gwysiwyd yr Iarll i ateb cyhuddiadau yn ei erbyn yn llys Harri I, brenin Lloegr, ac ymatebodd trwy wrthryfela yn erbyn y brenin. Ar y dechrau roedd pob un o'r tri brawd yn cefnogi Robert, a buont yn ymadd ar ei ran, gan anrheithio Swydd Stafford. Rhoddodd y brenin y dasg i William Pantulf o geisio cael Iorwerth, a ystyrid y mwyaf pwerus o'r tri, i newid ei ochr trwy gynnig rhoddion o dir iddo. Llwyddodd William, ac arweinodd Iorwerth fyddin Gymreig i gynorthwo'r brenin i orchfygu ac alltudio'r Iarll. Yn yr ymgyrch yma, cymerodd ei frawd Maredudd yn garcharor a'i drosglwyddo i'r brenin.

Dihangodd Maredudd o'i garchar yn 1107, ond ni allodd adennill grym. Yn 1113 ef oedd penteulu ei nai, Owain ap Cadwgan, oedd wedi dod yn dywysog Powys. Fel penteulu, gallodd Maredudd gymeryd Madog ap Rhiryd, oedd wedi lladd dau o'i frodyr, yn garcharor, a'i yrru i Owain, a'i dallodd fel dial am ladd ei dad.

Yn 1114, ymosododd y brenin Harri I ar Gymru. Ceisiodd Maredudd delerau heddwch ag ef, tra cyngheiriodd Owain a Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Pan laddwyd Owain yn 1116, dechreuodd Maredudd ennill grym; a'r flwyddyn honno cofnodir iddo yrru 400 o wŷr i gynorthwyo Hywel ab Ithel, arglwydd Rhos a Rhufoniog dan nawdd Powys, yn erbyn ei gymdogion, meibion Owain ab Edwin o Ddyffryn Clwyd. Enillodd Hywel fuddugoliaeth ym Mrwydr Maes Maen Cymro, ger Rhuthun, yn 1118 ond clwyfwyd ef, a bu farw chwech wythnos yn ddiweddarach. Cipiwyd ei diroedd i Wynedd gan feibion Gruffudd ap Cynan, ac ni allai Maredudd eu hatal.

Yn 1121 ymosododd Maredudd ar Swydd Gaer, ac ymosododd y brenin ar Bowys. Enciliodd Maredudd i Eryri a gofynnodd am gymorth Gruffudd ap Cynan. Nid oedd Gruffudd yn barod i fynd i ryfel a'r brenin er mwyn Maredudd, a bu raid i Maredudd dalu dirwy o 10,000 o wartheg. Roedd Gwynedd yn parhau i fygwth Powys, gyda meibion Gruffudd ap Cynan, Cadwallon ac Owain Gwynedd yn cipio rhannau o'r deyrnas yn 1124. Lladdwyd Cadwallon mewn brwydr ger Llangollen yn 1132, a bu llai o fygythiad o du Gwynedd am gyfnod. Ni chymerodd Maredudd ei hun ran yn y frwydr yma, a bu farw yr un flwyddyn. Olynwyd ef gan ei fab Madog ap Maredudd.