Cadwgan ap Bleddyn

Oddi ar Wicipedia
Cadwgan ap Bleddyn
Ganwyd1051 Edit this on Wikidata
Powys Edit this on Wikidata
Bu farw1111 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Powys, tywysog Edit this on Wikidata
TadBleddyn ap Cynfyn Edit this on Wikidata
PriodGwenllian ferch Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
PlantOwain ap Cadwgan Edit this on Wikidata

Tywysog rhan o deyrnas Powys oedd Cadwgan ap Bleddyn (1051-1111).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Cadwgan yn ail fab i frenin Powys a Gwynedd, Bleddyn ap Cynfyn. Pan laddwyd Bleddyn yn 1075, rhannwyd Powys rhwng tri o'i feibion, Cadwgan, Iorwerth a Maredudd. Ceir y cofnod cyntaf am Cadwgan yn 1088, pan ymosododd ar deyrnas Deheubarth, gan orfodi ei brenin, Rhys ap Tewdwr, i ffoi i Iwerddon. Dychwelodd Rhys yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a gorchfygodd fyddin Powys mewn brwydr lle lladwyd dau nai i Gadwgan, Madog a Rhiryd.[1]

Pan laddwyd Rhys ap Tewdwr yn ymladd yn erbyn y Normaniaid yn 1093, ymosododd Cadwgan ar Ddeheubarth, ond erbyn hyn roedd y Normaniaid yn meddiannu'r diriogaeth. Tua'r adeg yma, priododd Cadwgan ferch un o'r arglwyddi Normanaidd, Picot de Sai. Yn 1094 bu brwydr Coed Yspwys. Roedd Bleddyn mewn cynghrair a Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Yn 1098, dechreuodd Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer a Hugh o Drefaldwyn, 2il Iarll Amwythig ymgyrch i geisio adennill y tiroedd a gollasant yn y gwrthryfel. Talodd Gruffudd am lynges gan Ddaniaid Dulyn, ond cynigiodd y Normaniaid fwy o arian iddynt a newidiasant eu hochr, gan orfodi Cadwgan a Gruffydd i ffoi i Iwerddon mewn cwch bychan.[1]

Dychwelasant i Gymru y flwyddyn ganlynol, a gallodd Cadwgan adennill rhan o Bowys a Ceredigion, ar yr amod o wneud gwrogaeth i Robert de Bellême, 3ydd Iarll Amwythig. Am gyfnod, gallodd Cadwgan gryfhau ei sefyllfa. Ffraeodd yr Iarll Robert a'r brenin yn 1102, a gorchfygwyd Robert gyda chymorth Iorwerth, brawd Cadwgan. Cymerodd Iorwerth ei frawd arall, Maredudd, yn garcharor a'i drosglwyddo i'r brenin. Roedd Iorwerth wedi cael addewid am rodd o diroedd am wneud hyn, ond rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt i arglwyddi Normanaidd. Gwrthryfelodd Iorwerth yn erbyn y brenin, ac yn 1103 galwyd ef o flaen tribiwnllys brenhinol a'i garcharu. Gadawodd hyn Cadwgan fel rheolwr y cyfan o Bowys nad oedd yn nwylo'r Normaniaid.[1]

Yn 1109, syrthiodd mab Cadwgan, Owain, mewn cariad a Nest ferch Rhys ap Tewdwr, gwraig Gerallt o Benfro (Gerald de Windsor), a thorrodd i mewn i gastell (Cenarth Bychan neu Cilgerran) a'i chipio. Ceisiodd Cadwgan berswadio ei fab i ddychwelyd Nest i'r gŵr, ond methodd. Addawodd justiciar Swydd Amwythig, Richard de Beaumais, diroedd eang yn rhodd i aelodau eraill o dŷ brenhinol Powys petaent yn ymuno mewn ymosodiad ar Gadwgan ac Owain. Meddiannwyd Ceredigion, a ffôdd Owain i Iwerddon; tra gwnaeth Cadwgan gytundeb heddwch a'r brenin na adawodd ond ychydig o diriogaeth yn weddill iddo. Yn ddiweddarach, caniataodd y brenin iddo gael Ceredigion yn ôl ar yr amod ei fod yn talu dirwy o £100 ac yn torri pob cysylltiad ag Owain.[1]

Pan laddwyd ei frawd, Iorwerth, gan Madog ap Rhiryd yn 1111, daeth Cadwgan yn rheolwr Powys oll eto am gyfnod, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno, lladdwyd Cadwgan hefyd gan Fadog yn y Trallwng. Cipiodd Madog rai o'i diroedd, ac etifeddodd Owain y gweddill.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911).