Brwydr Maes Maen Cymro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Brwydr fawr oedd Brwydr Maes Maen Cymro a ymladdwyd yn 1118 ger Rhewl, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng teyrnasoedd Powys a Gwynedd dros reolaeth ar Y Berfeddwlad.

Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio Rhos a Rhufoniog. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid Maredudd ap Bleddyn, brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi Dyffryn Clwyd. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.[1]

Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion Gruffudd ap Cynan a'i gwneud yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas honno ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 A. H. Williams, An Introduction to the History of Wales, cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.