Magnus III, brenin Norwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llongau'r Llychlynwyr viking (o lawysgrif o'r 9fed neu'r 10fed ganrif)

Roedd Magnus III neu Magnus Olafsson (c.1074 - 1103) yn frenin Norwy o 1093 hyd ei farwolaeth. Fe'i llysenwyd Magnus Droednoeth am iddo fabwysiadu'r kilt Albanaidd yn lle'r trowsus Llychlynaidd traddodiadol.

Roedd Magnus yn un o'r olaf o'r brenhinoedd viking a fentrai ar y môr i geisio cadw gafael Norwy ar ei thiriogaethau lled-annibynnol ym Môr y Gogledd, Iwerddon a'r Môr Celtaidd.

Roedd yn fab i'r brenin Olaf III Haraldsson. Gwnaeth gyfres o gyrchoedd ar Ynysoedd Erch a Shetland (1098-1099). Ar ôl cyrraedd Ynysoedd Erch, anfonodd Paul ac Erlend Thorfinnson (dau o'r dri Iarll yr ynysoedd) i Norwy, a daethon nhw erioed yn ôl. Gosodwyd Sigurd, mab Magnus III yn eu lle. Wedyn aeth eu meibion, Hakon Paulsson, Erland Erlandsson a Magnus Erlendsson (yn ddiweddarach Sant Magnus), yn wystlon ar fordaith ysbeilio efo Magnus III, i Ynysoedd Heledd, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw, cyn iddyn nhw gyrraedd Ynys Seiriol, lle digwyddodd brwydr Afon Menai yn erbyn y Normaniaid.[1]Dywedir bod Magnus Erlandsson wedi gwrthod cymryd rhan yn y frwydr; arhosodd ar gwch yn canu salmau.[2]

Ysgrifennodd Bjorn Krepphendt, bardd Magnus, cerdd am eu taith ysbeilio trwy'r Ynysoedd Heledd.[3]

Yn ystod y blynyddoedd 1102-1103 arweiniodd ei lynges i ymosod ar Lychlynwyr anheyrngar gorllewin yr Alban ac Iwerddon. Cipiodd Ddulyn a chododd amddiffynfeydd newydd ar Ynys Manaw, ond yn ddiweddarach cafodd ei ladd mewn ysgarmes yn Ulster.

Gruffudd ap Cynan[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i gofir yn hanes Cymru am ei berthynas â Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, daeth Magnus a'i lynges i gynorthwyo Gruffudd mewn brwydr yn erbyn Normaniaid Caer ac Amwythig mewn brwydr ger Afon Menai yn 1098. Lladdodd Magnus Huw iarll Amwythig yn y frwydr:

A trannoeth, nachaf (dyna) trwy weledigaeth Duw llynges frenhinol yn agos yn ddirybudd yn ymddangos... // A'r brenin ei hun, yn ddigyffro o'r cwr blaen i'r llong, a frathws (tarodd) â saeth Hu iarll Amwythig yn ei lygad, ac yntau a ddigwyddws (syrthiodd) o'i ochrwm i'r ddaear yn friwedig ddienaid i-ar ei farch arfog, dan ymffustio yn ei arfau.

Ceir sawl cyfeiriad at ymddangosiad llynges Magnus mewn ffynonellau Norseg a Saesneg Canol hefyd, ond mae'r adroddiadau'n amrywio.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau Llychlynaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r hanesydd o wlad yr Iâ Snorri Sturluson (1179-1241) yn croniclo bywyd Magnus yn ei lyfr Saga Magnus. Cyfeirir ato mewn sawl cerdd a saga arall yn ogystal, gan gynnwys Saga Orkneyinga