Sant Magnus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mab Erlend Thorfinsson oedd Magnus Erlendson, yn hwyrach Sant Magnus (c.1080 - c.1118). Roedd ei dad un o Ierll yr Ynysoedd Erch hyd at 1098. Cymerwyd Magnus yn wystl gan Frenin Magnus III o Norwy ym 1098 ac aethont ar fordaith ysbeilio trwy Ynysoedd Heledd, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw. Roedd yn frwydr ar Afon Menai rhwng byddin Brenin Magnus a byddin Normaniaid o dan arweiniad Hugh D'Avranches o Gaer a Hugh de Montgomery.[1] Canodd Sant Magnus salmau ar y cwch yn hytrach nag ymuno â'r frwydr.[2]

Daeth o'n Iarll Ynysoedd Erch, yn cydlawodraethu efo'i gefnder Hakon Paulsson rhwng 1105 a 1114. Wedyn roedd problemau rhyngddynt, a phenderfynwyd cyfarfod ar Ynys Egilsay i setlo cytundeb. Dylai'r ddau wedi cyrraedd efo dau gwch llawn dynion, ond cyrhaeddodd Hakon efo wyth ohonynt. Wedi trafodaeth, penderfynwyd dylai Lifolf, cogydd Hakon, ladd Magnus. Maddeuodd Magnus Lifolf, a chafodd ei ladd.[3]

Mae Saga Orkneyinga yn cyfeirio at wyrthiau ynglŷn â bedd Sant Magnus. Daeth Esgob William yr Hen, esgob yr ynysoedd, yn ddall ar ôl beirniadu'r holl sôn am sanctrwydd Magnus, ond gwelodd o eto ar ôl gweddïo ar bedd Magnus, felly newidodd ei feddwl. Ond mae'n bosibl hefuyd fod o wedi newid ei feddwl ar ôl ymweld â Rognvald yn Norwy. Roedd Rognvald yn awyddus i ddod yn Iarll yr ynysoedd, a llwyddodd o ar ôl iddo addo adeiladu Cadeirlan Sant Magnus yn Kirkwall.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]