Gruffudd Fychan I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gruffudd Fychan I
Ganwyd 13 canrif Edit this on Wikidata
Bu farw 1289 Edit this on Wikidata (88 oed)
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Tad Gruffudd Maelor II Edit this on Wikidata
Mam Emma d'Audley Edit this on Wikidata
Plant Madog Crypl Edit this on Wikidata
Teulu Madog ap Gruffudd II, Angharad Griffith Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Fadog

Tywysog Powys Fadog oedd Gruffudd Fychan I (bu farw 1289).

Ef oedd yr ieuengaf o bedwar mab Gruffudd Maelor II, Arglwydd Dinas Brân. Ar farwolaeth ei dad yn 1269 neu 1270, etifeddodd Iâl ac Edeirnion, yn cynnwys Glyndyfrdwy. Cefnogodd Llywelyn ap Gruffudd yn rhyfel 1277 yn erbyn Edward I, brenin Lloegr. Lladdwyd ei frawd hynaf, Madog ap Gruffudd II, yn y rhyfel, ac eifeddodd Gruffudd ei diroedd. Yn y cytundeb heddwch ar ôl y rhyfel, cytunwyd y byddai'r gwrogi i Lywelyn am Edeirnion, ond i Edward I am Iâl. Cefnogodd Llywelyn eto yn rhyfel 1282-1283, a chollodd ei diroedd.

Perswadiodd Iarll Surrey y brenin i ganiatau iddo barhau i ddal ei diroedd fel tenant am weddill ei oes. Gadawodd fab ieuanc, Madog Crypl.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. E. Lloyd, Owen Glendower: Owen Glyn Dŵr (Clarendon Press, Oxford, 1931), 9-11.