Cadafael ap Cynfeddw

Oddi ar Wicipedia
Cadafael ap Cynfeddw
Ganwyd7 g Edit this on Wikidata
Bu farwc. 655 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata

Roedd Cadafael ap Cynfeddw (teyrnasodd 634– c. 655), a adwaenir hefyd fel Cadafael Cadomedd, yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Pan laddwyd Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd, yn 634, cipiwyd y deyrnas gan Cadafael ap Cynfeddw. Roedd gan Gadwallon fab, Cadwaladr ap Cadwallon, ond yr oedd yn dal yn blentyn. Mae'n ymddangos nad oedd Cadafael yn aelod o'r teulu brenhinol, a gellir casglu iddo gipio'r orsedd trwy rym.[1]

Gwnaeth gynghrair gyda Mersia ac ymladdodd ochr yn ochr â Penda, brenin Mersia, yn erbyn Northumbria. Pan ymosododd Penda ar Northumbria yn 655, yr oedd Cadafael a'i fyddin gydag ef. Gorchfygwyd byddin Penda gan Oswy ym Mrwydr Winwaed. Roedd Cadafael a'i fyddin wedi troi am adref y noson cynt, ac ni chymerasant ran yn yr ymladd. Mae'n ansicr a oedd Cadafael yn fwriadol yn dymuno osgoi ymladd ynteu nad oedd yn gwybod fod byddin Oswy yn y cyffiniau. Beth bynnag yr eglurhad, enillodd yr enw sarhaus "Cadomedd", hynny yw "gwrthodwr brwydr".[1]

Mae'n debyg na fu Cadafael yn frenin Gwynedd yn hir ar ôl y digwyddiad yma, ond nid oes gwybodaeth beth ddigwyddodd iddo. Rywbryd yn y blynyddoedd nesaf daeth Cadwaladr ap Cadwallon yn frenin.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
O'i flaen:
Cadwallon ap Cadfan
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadwaladr ap Cadwallon