Y Croesgadau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Croesgadau)
Jump to navigation Jump to search
Carte croisade.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cyfres, gwrthdaro Edit this on Wikidata
Math ymgyrch filwrol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1095 Edit this on Wikidata
Daeth i ben 1291 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Y Groesgad Gyntaf, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1110 a 1145, Yr ail Croesgad, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189, Y Drydedd Groesgad, Y Bedwaredd Groesgad, Y Pumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Croesgad y Barwniaid, Rhyfel y Lombardiaid, Crwysgad 1101 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.

Roedd Y Croesgadau yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan Gristnogion o gorllewin Ewrop draw yn y Dwyrain Canol yn yr Oesoedd Canol, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu y Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslimiaid. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma ble roedd Cristnogaeth wedi cychwyn ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y Pab bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma oedd cychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio bobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith Gerallt Gymro drwy Gymru yn 1188. Roedd Jeriwsalem yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy grefydd. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai rhain oedd y tiroedd ble roedd Iesu Grist wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd cyfuniad o resymau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol am y croesgadau;

  • Gwleidyddol – Roedd yna gobaith bydd y croesgadau yn ailuno’r Eglwys Gatholig Orllewinol ac Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Groeg
  • Economaidd – Roedd gwladwriaethau masnach yr Eidal eisiau ehangu eu masnach ym Y Môr Canoldir ar adeg pan oedd Mwslimiaid yn rheoli llawer o borthladdoedd strategol. Byddai ehangu eu masnach ym Môr y Canoldir yn golygu y byddai gwledydd Ewrop yn medru ehangu eu llwybrau masnach draw i’r Dwyrain Canol ble fedrent gael mynediad at nwyddau moethus.
  • Cymdeithasol – Roedd y Croesgadau’n cynnig rhyddid cymdeithasol i gymdeithas a oedd yn cael ei gorlwytho gan foneddigion heb dir. Roedd hyn o ganlyniad i’r drefn gyntafanedigaeth lle’r oedd y mab cyfreithiol hynaf yn etifeddu holl dir ei rieni. Roedd y Croesgadau’n cynnig cyfle i’r boneddigion hynny heb dir i ennill tiroedd yn y Dwyrain Canol. Os oedd bonheddwr yn mynd ar groesgad byddai ei farchogion yn ei ddilyn i’r frwydr fel rhan o’u rhwymedigaethau ffiwdal.
  • Crefyddol – Yn 1095 rhoddodd y Pab Urban II araith ddramatig i Gyngor Clermont yn annog Cristnogion i fynd i ryfel er mwyn achub Jerwsalem rhag rheolaeth Fwslimaidd. Ymateb y dorf a oedd wedi ymgasglu oedd dechrau llafarganu Deus vult, (ewyllys Duw yw hyn). Roedd Cristnogion duwiol yn achub ar y cyfle i fynd ar bererindodau neu deithiau ysbrydol i’r lleoedd a oedd yn gysylltiedig gyda Iesu Grist a Christnogaeth. Roedd ‘cymryd y Groes’ yn brawf perffaith o gariad a defosiwn Cristnogol at Dduw. Byddai’r croesgadwyr yn cael maddeuant am eu pechodau gan dreulio llai o amser ym mhurdan (lle byddai pechodau yn cael eu golchi cyn mynd i’r Nefoedd). Roedd adennill ac amddiffyn y Tir Sanctaidd ac amddiffyn Cristnogion (wrth ladd Mwslimiaid) yn cael eu hystyried yn ffyrdd o garu eich cymydog.

Yn gryno, roedd Cristnogion a Mwslimiaid yn cymryd rhan yn eiddgar mewn ymgyrchoedd i ladd a dinistrio ar raddfa enfawr, a hynny’n bennaf er mwyn cred a choncwest grefyddol mewn ymgais i sicrhau goruchafiaeth.[1]

Hanes y Croesgadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pedr y Meudwy yn arwain Croesgad y Bobl

Y Groesgad Gyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl - Y Groesgad Gyntaf

Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o 1095 i 1099. Fe'i lawnsiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond fe'i trechwyd ganddo. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chreuwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt a chafodd byddin Mwslemaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllydd ar y trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân.

Yr Ail Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl - Yr Ail Groesgad

Cwymp talaith Edessa i'r Saraseniaid yn 1144 oedd yr ysbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddianus.

Y Drydedd Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl - Y Drydedd Groesgad

Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd yr ysbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Lewgalon o Loegr. Parhaodd hyd 1192.

Y Bedwaredd Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl - Y Bedwaredd Groesgad

Yr amcan wrth lawnsio'r Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio'r Aifft, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny ac yn y diwedd saciwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybliedig, sef Caergystennin.

Y Croesgadau Olaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthyglau - Y Bumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Y Groesgad Olaf

Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y 13g. Erbyn 1291 roedd caer hollbwysig Acre ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y Lefant, wedi syrthio ac roedd y Croesgadau ar ben.

Arwyddocád y Croesgadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni Dysg. Cyfoethogwyd Ewrop gan fathemateg y Mwslimiaid, yn arbennig ym maes algebra (a oedd yn ddieithr i Ewropeiaid cyn hynny). Dylanwadwyd ar Ewrop hefyd gan syniadau’r Arabiaid am feddygaeth, gwyddoniaeth athroniaeth a chelfyddyd. Daeth croesgadwyr â pherlysiau gwerthfawr nôl gyda nhw o’r Dwyrain Canol hefyd, sef nytmeg a synamon, siwgr a chotwm.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 28 Ebrill 2020.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amin Maalouf, Les croisades vues par les Arabes (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr Arabiaid).