Eglwysi yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Am y corff a elwir yn 'Eglwys yng Nghyymru' gweler yma.

Mae rhai eglwysi yng Nghymru ymhlith yr adeiladau hynaf yng Nghymru, gyda rhai cestyll, hefyd yn dyddio i'r Oesoedd Canol.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

Yn y 12g tröwyd llawer o'r hen glasau, celloedd a phriordai'r Eglwys Geltaidd yn eglwysi plwyf cyffredin a llifodd eu hincwm i fynachlogydd Lloegr, gan amlaf. Llifai arian eglwys Llancarfan er enghraifft i Abaty Caerloyw. Yng ngolwg y Nomaniaid, sefydliadau digon cyntefig oedd yr hen sefydliadau Cymreig hyn a gwnaethant eu gorau i reoli'r esgobaethau Cymreig. Bu nifer ohonynt cyn dyfodiad y Normaniaid gan gynnwys Llanbadarn Fawr, Meifod, Llandeilo Fawr, Caergybi a Chlynnog Fawr. Roedd saith esgopty yn Nyfed. Erbyn y 10g, cofnodir i lawer o'r esgobaethau hyn ddiflannu; gwyddys, fodd bynnag mai Bangor oedd canolfan y Gogledd, Tyddewi oedd canolfan esgobaeth y Deheubarth, ond nid oes cofnod ym mhle'n union oedd lleoliad canolfan esgob Morgannwg, gan nad oes cysylltiad i Landaf tan 1119.

Penwyd llawer o estroniaid yn esgobion, a throdd nifer ohonynt at awdurdod Cyfraith Ganonaidd yr Eglws Ladin, ac o dipyn i beth cafodd ei chorffori yn nhalaith Caergaint. Carreg filltir yn y Seisnigio hwn yw pan dyngodd archesgob Urban (1107 - 1134), esgob Morgannwg lw o ufudd-dod i archesgob Caergaint. Yn ei feddwl ef, gwnaeth yr hyn a oedd yn iawn - cryfhau ei berthynas gyda noddwr pwerus er mwyn cadw eiddo'r Eglwys o ddwylo blewog y marchogion Normanaidd. Yn yr un drefn, penodwyd y Norman Bernard yn esgob Tyddewi yn 1115 a thyngodd lw o uffudd-dod i archesgob Caergaint ac i frenin Lloegr. Yn yr oes yma y daeth bri mawr i 'Gwlt Dewi' a chodwyd llawer o eglwysi - o Henffordd i Fae Ceredigion wedi'u cysegru i Ddewi. Yn yr adeg hon hefyd y ceisiwyd cydnabod Tyddewi fel archesgobaeth, gydag awdurdod dros egobion Cymru. Yn 1176 ac eto yn 1179 ymgyrchodd Gerallt Gymro o blaid dyrchafu statws Eglwys Dewi yn archesgob.

Os mai nawdd Normanaidd oedd y tu ôl i Urdd Sant Bened, Rhys ap Gruffudd yn anad neb arall a sicrahodd lwyddiant Urdd y Sistersiaid, a chodwyd Ystrad Marchell yn 1170, Abaty Cwm Hir yn 1176, Llantarnam ger Caerleon yn 1189, Abaty Aberconwy yn 1186, Abaty Cymer, Meirionnydd yn 1198 ac Abaty Glyn Egwestl yn 1202, er enghraifft.

Yn ne-ddwyrain Cymru y gwelir llawer o'r eglwysi cynharaf, ac mae iddynt ddylanwad Normanaidd: waliau trwchus, bwtresi isel a gwastad ac ychydig o agoriadau fel ffenestri. Patrwm 'saethben' oedd i'r gwaith cerrig, yn debyg i arddull y Sacsoniaid, ond adeiladai'r Normaniaid mewn arddull Romanésg - gyda'r siap hanner cylch i'w gweld ym mhobman ac mae Eglwys y Santes Fair, Cas-gwent yn enghraifft ragorol. Mae'r hanner cylch, neu'r bwa hefyd i'w weld mewn llefydd fel Abaty Margam ac yn nenfydau bwaog Priordy Ewenni. Gan nad oedd lawer o ffenestri, roedd y tu fewn yn dywyll.

Mewn trefi y lleolwyd llawer o fynchlogydd Normanaidd Cymru, a oedd yn perthyn i Urdd Sant Bened, ond bywyd syml, gwledig oedd wrth wraidd lleoliad mynachlogydd y Sistersiaid (Ystrad Fflur er enghraifft, neu Abaty Tyndyrn).

Wedi'r Goncwest[golygu | golygu cod]

Yn rhyfel 1282-83 difrodwyd llawer o eiddo'r eglwys ac yn 1285 talodd Edward I, brenin Lloegr oddeutu £2,300 i 107 o eglwysi i'w digolledu. Gwnaeth yr archesgob Pecham archwiliad manwl o eglwysi Cymru yn 1284. Bu'r blynyddoedd dilynol yn oes aur o ran adeiladau a godwyd yn arddull Addurnedig y cyfnod, a llenyddiaeth grefyddol e.e. Llyfr Gwyn Rhydderch. erbyn 1300 roedd Cymru wedi'i rhannu'n blwyfi. Ond er hyn, erbyn dechrau'r 14g roedd yr Eglwys Gymreig fwy neu lai o dan awdurdod coron Lloegr. O 1294, trethwyd yr eglwys yng Nghymru yn drwm ac yn greulon.

Erbyn 1380 dim ond 71 o fynachod oedd ar ôl yng Nghymru a dau o'u beirniaid mwyaf llym oedd Dafydd ap Gwilym c Iolo Goch, ac roeddent ill dau'n gwbwl wrth-glerigaidd. Cymerwyd drosodd nifer o eglwysi Cymreig gan fynachlogydd Seisnig hefyd. Ond un o amddiffynwyr mwya'r Cymry oedd y Pab (o leiaf hyd at 1350) a pharchai'r Cymry Cymraeg gan fynnu y dylai pob bugail gwerth ei halen siarad iaith ei braidd!

Yn araf, sylweddolwyd y gellid defnyddio'r bwtres ar ffurf stepiau i gynnal y to, gan wneud y waliau'n deneuach. Mae pensaerniaeth Eglwys Gadeiriol Aberhonddu'n esiampl o benaerniaeth Gothig, gyda'i ffenestri lansed hir, cul. Gyda thwf yn y boblogaeth, yn aml ehangwyd yr eglwysi trwy ychwanegu eiliau, gyda cholofnau'n gwahanu'r hen a'r newydd. Yn y 14g gwelwyd datblygiad yn nhechnegau pensaerniaeth yr oes. Golygai'r datblygiad mewn 'rhwyllwaith' y gall ffenestri fod yn lletach, ac mewn patrymau geometrig, ysgafn. Ychwanegwyd tyrrau at lawer o'r eglwysi cyffredin tua'r adeg yma e.e. Eglwys Sain Nicolas, y Grysmwnt ac mae tyrau cain iawn yn Ninbych-y-pysgod, llawer o bentrefi Gwent a Thegeingl a chodwyd eglwysi dwy-eil nodedig yn Nyffryn Clwyd.

Yn y 15fed a'r 16g aeth cynllun yr eglwysi'n fwy cymhleth ac ailadeiladwyd nifer ohonynt. Ystyrir Eglwys Sant Beuno, Clynnog yn enghraifft nodedig, ac felly hefyd Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd. Aeth y ffenestri'n fwy sgwâr, a'r waliau'n llai trwchus, unwaith eto. Addurnwyd y tyrrau'n gain er mwyn tynnu sylw atynt, gyda phinaclau a pharapetau e.e. Eglwys San Silyn, Wrecsam.

Diwygiad a Gwrth-ddiwygiad[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y 1530au diddymwyd y mynachlogydd i gyd. Gyda'r Diwygiad Protestanaidd gwnaethpwyd Cymru yn wlad Brotestanaidd gydag Eglwys Loegr yn eglwys wladwriaethol Cymru a Lloegr. Yn 1563 pasiwyd deddf seneddol yn awdurdodi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

Anghydffurfiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn ôl credo'r Apostol Paul, Credo Nicea a'r diwygiwr Calfin – hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gwŷr, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd Walter Cradoc, John Myles a Vavasor Powell. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol.

O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu’r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parhâi’r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y 18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academïau preifat.

Ar droad y 19g, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt.

Ymneilltuo[golygu | golygu cod]

Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn ‘enwad’ cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys ‘swyddogol’. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Codwyd, golygwyd ac yn ddyfynedig o http://www.annibynwyr.org/print/hanes.html Archifwyd 2008-08-20 yn y Peiriant Wayback.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]