Neidio i'r cynnwys

Polisi Pennal

Oddi ar Wicipedia
Polisi Pennal
Arddangos Llythyr Pennal yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc, Paris yn 20023.
Enghraifft o:llythyr Edit this on Wikidata
AwdurOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1406 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Enw a roddir ar ddwy ddogfen bwysig yw Polisi Pennal, un ohonynt wedi ei llunio ym Mhennal yn ystod cyfarfod o gynulliad Owain Glyn Dŵr ym Mawrth 1406, a'r llall yn ffrwyth ymweliad llysgenhadaeth Owain â llys Brenin Ffrainc ym Mharis yn sgil cyfarfod Pennal.

Cyfansoddodd Owain y llythyr yn Lladin, ym Mhennal, yng ngogledd Cymru, yn 1406, ac ynddo gosododd ei weledigaeth o Gymru annibynnol. Ystyrir y llythyr yn unigryw fel yr unig ddogfennaeth ysgrifenedig sydd wedi goroesi sy'n manylu ar bolisïau cenedlaethol, seciwlar a chrefyddol ar gyfer Cymru annibynnol yn yr Oesoedd Canol. Mae'n disgrifio Llywodraeth Lloegr fel "y Sacsoniaid barbaraidd, a drawsfeddiannodd wlad Cymru iddynt eu hunain" ac mae'n galw ar y Pab Bened XIII i geisio cosbi Harri IV fel heretic am losgi llawer o adeiladau eglwysig yng Nghymru ac am iddo ddienyddio aelodau'r eglwys Gymreig.

Llythyr Owain Glyn Dŵr at Charles VI o Ffrainc

[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd y llythyr hwn ym mhlas Cefn Caer ym Mhennal, yn ôl traddodiad, a'i arwyddo yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula (Sant Pedr yn ei Gadwynau), Pennal, ger Machynlleth. Yn y llythyr hwn mae Owain yn gofyn i Charles am gymorth i ymladd yn erbyn y Saeson. Ni chafod ateb. Mae'r llythyr, fodd bynnag, yn dangos gweledigaeth Owain: sonia am eglwys annibynnol yng Nghymru, gydag archesgob yn Nhyddewi. Mae'n crybwyll hefyd yr angen am ddwy brifysgol: y naill yn y Gogledd a'r llall yn y de. Yn eironig iawn ar y diwrnod hwn yn 1820 y Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru.

Cytundeb Owain a Charles VI o Ffrainc

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei deyrnasiad, arwyddodd Charles VI, brenin Ffrainc gytundeb gydag Owain Glyn Dŵr.

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Cartre'r llythyr yw Archifau Cenedlaethol Ffrainc (J516 B.40 a J516.29).[1] Cafodd ei arddangos am gyfnod byr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2000. Gwnaed chwe chopi ffacsimili union, ar femrwn oedrannus wedi'i selio â mowldiau o sêl wreiddiol Glyn Dŵr, gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a'u cyflwyno i chwe sefydliad Cymreig yn 2009.[2]

Dangoswyd y llythyr i i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ar ei ymweliad â Pharis i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Ffrainc.[3]

Mae ymgyrch ar y gweillers tro i’w ddychwelyd a’i arddangos yn barhaol yn y Senedd yng Nghaerdydd. Ym 1999, galwyd ar Dŷ'r Cyffredin, galwad a lofnodwyd gan 28 aelod, am i'r llythyr a'r sêl gael eu symud o Ffrainc i Gymru, gan ei fod o "arwyddocâd hanesyddol mawr yng Nghymru fel trysorau prin yn hanes Cymru" ac y dylid ei arddangos yng Nghymru.[4] Cefnogwyd y cynnig gan y gwleidyddion Paul Flynn, Alun Michael a Ron Davies.[5]

Mae'r ymgyrch hon yn cael ei gefnogi gan alwadau blynyddol i'w ddychwelyd i Gymru.[6] Yn 2022, gwnaeth y canwr Cymreig Gwilym Bowen Rhys alwadau tebyg.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pennal Letter (with translation of letter)". Canolfan Owain Glyndŵr Centre. 24 July 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2020.
  2. "Pennal Letter". National Library of Wales. Cyrchwyd 17 Mawrth 2023.
  3. Morris, Steven (2023-03-17). "Mark Drakeford moved by historic letter asking French to help fight 'barbarous' English". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-03-18.
  4. "RETURN TO WALES OF THE ARTEFACTS OF OWAIN GLYNDWR".
  5. "BBC News | WALES | Glyndwr letter back in Wales". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 16 Ionawr 2023.
  6. "BBC News | WALES | Glyndwr letter returns to Wales". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 16 Ionawr 2023.
  7. "Gwilym Bowen Rhys eisiau gweld llythyr Owain Glyndŵr yn dychwelyd i Gymru". Golwg360. 16 September 2022. Cyrchwyd 16 Ionawr 2023.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Welsh Records in Paris, gol. T. Mathews (Caerfyrddin, 1910)